Y Barri Triasig
Mae’r ardal arfordirol y Bendricks yn un o’r lleoliadau gorau yn y DU i weld olion traed dinosoriaid o’r cyfnod Triasig Uchaf.
Mae’n anhygoel meddwl, 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl, fod yr ardal hon yn baith crasboeth gyda fflach-lifogydd a dinosoriaid yn crwydro’r tirwedd mwdlyd. Darganfwyd dros 400 o olion traed dinosoriaid yn y cerrig silt coch ar hyd yr arfordir rhwng Craig Bendrick a Sili. Mae sawl math o ddinosor wedi’i adnabod drwy’r olion traed ffosiledig: cafodd yr olion traed bach, 3-bys, siŵr o fod eu gwneud gan ddinosoriaid bach cigysgol (theropod) a gerddai ar eu coesau ôl. Mae’n bosib bod yr olion traed 3-bys mawr yn perthyn i ddinosoriaid theropod mwy o faint ac mae’n bosib fod rhai olion traed lletach 4-bys yn perthyn i ddinosoriaid llysysol a fyddai fel arfer yn cerdded ar bedair coes
Mae Craig Bendrick yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA); mae’r creigiau yma a’u ffosiliau o bwys rhyngwladol. Gwaharddwyd casglu ffosilau a gweithgareddau sy’n difrodi’r creigiau. Mae croeso mawr i ymwelwyr cyfrifol – gallwch helpu i gadw’r lle hwn yn arbennig i eraill. Os gwelwch unrhyw un yn difrodi’r creigiau neu’n casglu ffosilau, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://geoconservationlive.org/sites/bendrick-rock/