CYFLWYNO EICH SYNIAD

Os oes gennych syniad gwych ar gyfer prosiect hoffem glywed gennych chi. Mae gennym ddiddordeb mewn ariannu prosiectau a fydd yn gwneud y Barri yn lle gwell nawr ac yn y dyfodol.

Cyflwynwch syniad

Mae £20 miliwn yn swnio fel llawer o arian, ond dros 10 mlynedd bydd yn cael ei wario yn gyflym. Bydd angen i ni ganolbwyntio ar brosiectau sy'n diwallu gwir angen, sy'n gynaliadwy (h.y. gallent ddal ati heb arian pellach) neu sy'n cael effaith hirdymor, ac sydd â chefnogaeth eang gan y gymuned.

Mae angen i brosiectau fodloni o leiaf un o'r 5 amcan canlynol:

  1. Mae pobl yn teimlo’n fwy diogel yn y Barri
  2. Mae pobl yn weithgar yn eu cymuned, ac yn falch ohoni
  3. Gall pobl ifanc gyflawni eu potensial
  4. Mae gan bobl lefydd bywiog i siopa, gweithio a mwynhau
  5. Mae gan bobl fynediad at swyddi da

Ystyriwch hefyd a fyddai eich prosiect yn cyfrannu at un o'r canlyniadau hirdymor hyn:

  1. Bydd y bwlch rhwng gwahanol ardaloedd yn y Barri o ran iechyd a lles a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn cael ei leihau. Bydd pobl ledled y Barri yn cael yr un cyfleoedd i gwrdd ag eraill a dysgu pethau newydd. Bydd cefnogaeth i helpu cymunedau i dyfu a gwella yn y dyfodol.
  2. Bydd mannau cyhoeddus y Barri yn lanach, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda, gyda llwybrau mwy deniadol ar gyfer cerdded, a fydd yn annog mwy o bobl i gerdded a defnyddio eu mwynderau lleol.
  3. Bydd y Barri yn teimlo'n fwy diogel i bawb. Bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn llai aml a bydd mannau cyhoeddus yn fwy diogel oherwydd mwy o brysurdeb a phobl o gwmpas. Bydd lleoedd i bobl ifanc fynd a byddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu mwynhau.
  4. Bydd gan ganol y dref fwy o fathau o siopau a llai o siopau gwag. Bydd mwy o bethau ar agor gyda'r nos, a bydd mwy o bobl yn defnyddio canol y dref ar gyfer siopa a hamdden.
  5. Bydd gan bobl ifanc fwy o ddewisiadau ar gyfer swyddi a gyrfaoedd. Byddant yn gallu cael hyfforddiant a chymwysterau a bydd llwybrau clir tuag at gwaith. Bydd mwy o bobl ifanc yn teimlo'n gadarnhaol am aros yn y Barri ar ôl ysgol neu brifysgol.

Cysylltwch â [email protected] os hoffech drafod eich syniad prosiect a gofyn am ffurflen gais.