Ymweld
â'r Barri
Hwyl glan môr a threftadaeth glan cei
Arfordir euraid a hanes diwydiannol rhyngwladol mewn un pecyn aruthrol
‘Does unman arall yn cynnig hanes diwydiannol rhyngwladol a glan môr euraid ochr wrth ochr.
Wedi ei leoli yn Ne Cymru, ‘does unman arall yn cynnig hanes diwydiannol rhyngwladol a glan môr euraid ochr wrth ochr. Yn wir, ond ychydig lefydd draws y byd sy’n medru cyfuno glo a chandifflos, llongau a sglodion a cheir bympars a bananas mewn ffordd mor ddisymwyth. Mae gennym arfordir gogoneddus, mannau gwyrdd gwych, pentrefi hanesyddol, trefi marchnad a llu o dreftadaeth.
Mae gan y Barri hanes o groesawu ymwelwyr; o bererinion canoloesol yn teithio i Eglwys Sant Barrwg ar yr ynys i ffans Gavin & Stacey sydd bellach yn heidio i weld golygfeydd a lleoliadau'r sioe deledu, sy’n boblogaidd yn rhyngwladol.
Roedd y Fictoriaid cynnar yn teithio ar gwch i Fae Whitmore, ond ar ôl i’r ynys gael ei chysylltu â’r prif dir, roedd cannoedd o filoedd yn tyrru yma ar gyfer eu gwyliau haf blynyddol. Adeiladwyd y promenâd a llochesi yn y 1920au - datblygiad mawr a drodd yr ynys i mewn i gyrchfan boblogaidd.
Fodd bynnag, mae mwy i’w weld yn y Barri na’r ynys. Dysgwch am rai o’n perlau eraill ni yma!
LLEOEDD I YMWELD
Gerddi Gladstone
Mae gan Gerddi Hanesyddol Gladstone yng nghanol y dref fannau amrywiol ar gyfer ymlacio a chwaraeon.
Darllen MwyLlwybr treftadaeth o Doc y Barri i Ganol y Dref
Dilynwch lwybr treftadaeth sain 'hel clecs' a chlywed y gair ar y stryd! Allwch chi ddweud ffaith o ffuglen?
Darllen MwyCerdded yn y Barri
Teithiau cerdded a sgyrsiau! Gwrandewch ar straeon wrth i chi archwilio'r Barri ar droed.
Darllen MwyCelf o gwmpas y dref
O fomio edafedd i gerfluniau anferth mae yna lawer o weithiau celf i'w gweld o amgylch y dref.
Darllen MwyParc Gwledig Porthceri
Mae Parc Gwledig Porthceri yn cynnwys 220 erw o goedwigoedd a ddoldir, traeth cerrig, a thraphont dramatig Fictoraidd.
Darllen MwyCanolfan Celfyddydau y Memo
Sinema, theatr ac amryw o berfformiadau a digwyddiadau cymunedol.
Darllen Mwy








