Celf o gwmpas y dref

Mae'r Barri yn lle creadigol ac mae'r creadigrwydd hwnnw'n aml yn llifo i'r strydoedd. O wlângofleidio i gerfluniau enfawr, mae llawer o waith celf i'w weld ar hyd a lled y dref, os ydych yn gwybod lle i edrych.

Comisiynwyd gwaith celf trwy gyllid i’r celfyddydau a chyllid adfywio, yn ogystal â chyfraniadau gan ddatblygwyr. Ond un peth sydd gan yr holl brosiectau celf yn gyffredin yw eu bod yn ymwneud â’r lle ac yn dathlu stori’r Barri. Mae artistiaid wedi cael eu hysbrydoli gan hanes y trawsnewid i fod y porthladd allforio glo prysuraf yn y byd a chan enw da Ynys y Barri fel y lle gorau ar gyfer gwyliau yn ne Cymru trwy gydol llawer o’r 20fed ganrif. the place for a holiday in South Wales through much of the 20th century.

Mae clwstwr o weithiau celf ar Ynys y Barri. Os ydych chi’n cyrraedd yr Ynys ar hyd y sarn fe welwch yn sefyll yn erbyn yr awyr cerflun sy’n cyhoeddi’r cyrchfan traeth. Mae ‘Beside the Seaside… Beside the Sea’ gan John Clinch (1934-2001) yn waith celf hwyliog a hawdd i’w ddehongli gan gerflunydd adnabyddus. Ar y promenâd, mae’r llochesi Gorllewinol a Dwyreiniol yn cael eu goleuo fin nos gan gynllun goleuo rhyngweithiol lle mae’r goleuadau’n newid lliw. Beth am fynd am dro gyda’r nos ar hyd y promenâd i werthfawrogi’r adeiladau rhestredig hyn? Os ydych chi’n teimlo’n egnïol, rhowch gynnig ar y wal ddringo liwgar sy’n llawn siapiau hynod a difyr ar thema glan y môr. Mae hon mor fawr y gallwch hyd yn oed ei gweld o’r awyren wrth fynd neu dod o Faes Awyr Caerdydd!

Lighting scheme by Jessica Lloyd-Jones

Hood Rd tunnel lighting scheme by Jessica Lloyd-Jones and Architainment

Mae cynifer o brosiectau celf yng nghanol y dref fel bod modd i chi ddilyn llwybr. Dechreuwch trwy gerdded trwy’r twnnel sy’n cysylltu Broad Street a Hood Road, a mwynhewch y profiad o gerdded o dan linellau lliwgar o olau. Mae’r lliwiau a’r patrymau’n newid ac ar un adeg yn edrych fel dŵr yn rhedeg tuag at y Glannau, a thro arall mae’r goleuadau’n symud i gyfeiriadau gwahanol, mae lliwiau pinc ac oren yn symud tuag at y siopau ar High St, ac mae lliwiau glas a phorffor yn symud tuag at y Glannau. Gan droi i’r chwith i lawr Hood Road, mae Canolfan Feddygol Cei’r Gorllewin i fyny ar y chwith (gallwch ddringo’r lan serth neu ddilyn y llwybr troellog). O flaen yr adeilad mae gwaith celf yn y llawr sy’n ymgorffori arwyddair y Ganolfan. Drws nesaf mae’r BSC (Canolfan Gwasanaeth Busnes) sydd â phaentiadau gwreiddiol yn y dderbynfa.

Dilynwch Hood Road lawr at Ffordd y Mileniwm a trwoch i’r chwith tuag at y Premier Inn. Wrth gerdded dros y palmant agored, rhowch gynnig ar ddatrys y gêm ar y llawr gyda’r sgwariau gwag. Cerddwch ymlaen gan basio’r meini cerddi a Brewer’s Fayre. Croeswch yr heol a cymerwch y llwybr ar hyd y doc, a cadw fynd tan i chi gyrraedd Cofeb y Llynges Fasnachol ar ffurf angor, wedi’i lleoli ar ddiwedd glanfa lo. O fan hyn trowch i’r chwith i fyny Y Rhodfa at y gylchfan ar Ffordd y Mileniwm. Allwch chi ddim methu’r cerfluniau metel tal sy’n ddiwydiannol ac yn addurniadol ar yr un pryd. Trowch i’r dde wrth y gylchfan ac wrth y gylchfan nesaf trowch i’r chwith a dilyn y ffordd at y bont i gerddwyr sy’n croesi’r rheilffordd. Byddwch yn mynd heibio i’r ‘dominos’ ar hyd y bont, na, dim sy’n ymwneud â pizza, ond clwb ieuenctid aml-ddiwylliannol gwych o’r enw’r Domino Club a gafodd ei gynnal rhwng 1947 a 1951.

 

Ar ôl croesi’r bont, croeswch y ffordd i Stryd Thompson. A welwch chi’r baneri sy’n eich arwain at y dref? Ar y wal i’r chwith mae gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan gardiau post y Barri a sinema gynnar. Ar droad yr 20fed ganrif roedd sawl lleoliad yn y Barri lle gellid profi’r ffurfiau cynharaf o sinema. Yn benodol, ‘Electric Palace’ Leon Vint ar Stryd Thompson.

Thompson St artwork

Dilynwch y bolardiau coch a du hynod ar hyd y stryd er mwyn cyrraedd Heol Holltwn. Ar ddiwedd Stryd Thompson trowch i’r dde ac ar hyd y palmant fe welwch luniau o nwyddau’n arllwys o fagiau siopa, popeth o deganau i ffrwythau a llysiau, sy’n ddathlu hanes y stryd fel cyrchfan siopa. Hefyd, mewn sawl lleoliad ar hyd Heol Holltwn fe welwch standiau beic mewn siâpau amrywiol – pysgodyn, ton, hufen iâ ac ati.

Wrth barhau i fyny Heol Holltwn byddwch yn cyrraedd Sgwar y Brenin a Neuadd y Dref sy’n gartref i’r llyfrgell ac i’r Oriel Gelf Ganolog. Yn y llyfrgell mae penddelw portread o Gwynfor Evans, yr aelod seneddol cyntaf o Blaid Cymru, ac mae’r Oriel yn cynnal rhaglen amrywiol o arddangosfeydd a digwyddiadau.

Trowch o gwmpas a mynd am yn ol lawr Heol Holltwn tan i chi gyrraedd y Swyddfeydd Dinesig, sydd â chofeb o’i flaen i’r Morwyr Masnach. Yn gyfagos i hynny mae gwaith efydd ar lawr, o farddoniaeth gan Gillian Clarke, wedi’i gosod o fewn slab carreg. Cerddwch hyd ddiwedd Ffordd Holton gan gadw i’r dde. Wrth y gylchfan fawr, ar y gyffordd â Gladstone Road, fe welwch ffasâd gwydr pensaernïol trawiadol Golau Caredig.

O’r fan hon, gallwch naill ai orffen eich taith gerdded gelf gyda ymweliad hamddenol i’r Gerddi Gladstone a gweld y murluniau yn y gerddi Isaf ac Uwch.

Neu os hoffech ddychwelyd i’r man cychwyn, croeswch Bont Heol Gladstone, heibio’r murlun lliwgar ar y ddau barapet, gyda siapiau sy’n seiliedig ar dirnodau lleol fel Traphont Porthceri a’r Llochesi ar Ynys y Barri.

Upper Gladstone Gardens Mural

Roedd llawer o’r prosiectau hyn wedi cynnwys ysgolion a grwpiau lleol, gan helpu’r artistiaid i ymchwilio i syniadau a straeon a hyd yn oed creu’r gwaith celf ei hun. Er enghraifft, disgyblion Ysgol Gynradd Holton Rd ac Ysgol Iau Gatholig St Helen a ddarluniwyd y celf palmant ar Heol Holltwn. Mae mwy i’w ddarganfod ar dudalen y Map; chwiliwch o dan ‘Celfyddydau a Diwylliant’. Map page; search under Arts & Culture.

Fideo

Pileri Golau gan Simon Fenoulhet

“Daeth y syniadau ar gyfer goleuo’r Lloches Orllewinol o dreulio amser yn gwylio’r llanw’n codi ac wrth arsylwi’n dawel ar bobl. Y grwpiau sy’n mynd yno’n rheolaidd megis y rhai sy’n mynd â’u cŵn am dro, grwpiau ffitrwydd, rhedwyr parc, cerddorion, bechgyn ar feiciau, pobl wedi ymddeol allan am dro a theuluoedd yn ymweld sy’n gwneud Ynys y Barri yn lle mor gyfeillgar a dymunol. Roedd rhythm hamddenol i fywyd yma ac roeddwn yn awyddus i’r goleuadau gydweddu â’r teimlad hwnnw, gyda symudiadau graddol rhwng lliwiau a newidiadau graddol i’r naws.”

Mae pum cydweddiad lliw yn para am funud yr un cyn newid i’r dilyniant nesaf. Mae synwyryddion yn tarfu ar y patrwm yn neupen y lloches sy’n lansio’r sbectrwm o liw sy’n symud ar draws y pileri. Efallai y byddwch yn gweld cynlluniau goleuo gwahanol ar gyfer achlysuron arbennig, fel Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi, Sul y Cofio, a Dydd Gŵyl Dewi.

Gwybodaeth

Domino Club gan Lulu Quinn

Wrth ymchwilio i hanes yr ardal, darganfu Lulu hanes clwb ieuenctid a oedd ar waith yn Stryd Thompson rhwng 1947 a 1951. Roedd yn adeg pan oedd y Barri, a Stryd Thompson yn benodol, yn fwrlwm o ddiwylliannau gwahanol. Ysgrifennwyd y gerdd a gerfiwyd i’r darn domino llechen cyntaf gan Decima Haughton-Watkins ac mae’n rhestru’r holl genhedloedd a ffurfiodd y clwb. I weld lluniau archif o’r Domino Club cliciwch yma. yma.

 

Fideo

Paneli enamel gwydrog gan Tom Pearman

Ysbrydolwyd y prosiect hwn gan gardiau post o’r Barri a sinema gynnar. Ar droad yr 20fed ganrif roedd sawl lleoliad yn y Barri lle y gellid profi’r mathau cynharaf o sinema; yn benodol, ‘Electric Palace’ Leon Vint ar Stryd Thompson. Mae’r paneli graffig llai yn pwysleisio’r broses o daflunio golau sinematig, sef diffodd y goleuadau (cam 1); plygio’r taflunydd i mewn (cam 2); a rhoi’r taflunydd ymlaen (cam3). Mae’r paneli wedi eu hargraffu gan ddefnyddio gwahaniad 4 lliw (fel yr hen gardiau post) ac mae’r siapau sydd wedi’u torri allan yn adlewyrchu’r tirweddau model papur a gynhyrchwyd yn y gweithdai celf ac animeiddio a gynhaliwyd gyda phobl ifanc fel rhan o’r prosiect.

Fideo

Llif gan Jessica Lloyd-Jones

I fyny’r ffordd o’r Goodsheds, ar eich ffordd tuag at y Stryd Fawr, fe welwch y twnnel hwn yn cysylltu’r ddwy gyrchfan siopa a bwyta wych. Mae’r daith gerdded drwy’r twnnel bellach wedi’i gwneud yn brofiad ynddi’i hun wrth i chi gerdded o dan bedair llinell o batrymau golau lliw sy’n llifo. Wedi’i gynllunio gan yr artist Jessica Lloyd-Jones mewn cydweithrediad â’r cwmni dylunio goleuadau Architainment, mae gan y goleuadau hefyd amrywiaeth o raglenni ar gyfer diwrnodau arbennig fel Dydd Santes Dwynwen, Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid a llawer mwy.

Ffilm gan Andrew Gale Photography. Cerddoriaeth gan Ant Dickinson.