FfotoBARRIthon
Cynhaliwyd ffotoBARRIthon yn y Barri ar 10 Hydref 2020. Roedd digwyddiad 12 awr i'r rhai â digon o stamina a digwyddiad 6 awr i deuluoedd. Digwyddiad i bobl leol sy'n adnabod y lle'n dda ond nad ydynt efallai wedi edrych arno'n agos drwy lens, a digwyddiad i alluogi ymwelwyr dreulio'r diwrnod cyfan yn archwilio ac yn dod o hyd i gyfleoedd lluniau gwych.
Ysgogwch eich creadigrwydd, archwiliwch y Barri, cyfle i gwrdd â phobl sy’n rhannu eich diddordeb a heriwch eich sgiliau ffotograffiaeth.
Beth ydy ffotomarathon?
Mae’n brawf o greadigrwydd, sgiliau ffotograffiaeth, dygnwch, a synnwyr digrifwch! Mae’n ddigwyddiad cystadleuol gyda gwobrau, ac mae’n digwydd dros gyfnod penodol o amser. Fformat FfotoBARRIthon ydy 12 pwnc, 12 llun, 12 awr, neu 6 phwnc, 6 llun, 6 awr.
Mae llawer o reolau i’r gêm, ond yn hanfodol rhaid i chi gael un llun fesul pwnc a rhaid iddynt fod yn nhrefn y pynciau ar eich ffôn neu’ch camera, heb unrhyw luniau ychwanegol.
Rheolau FforoBARRIthon
12 gair gall er mwyn goroesi (a llwyddo) yn y FfotoBARRIthon
- Darllenwch y rheolau a’r holl wybodaeth am y digwyddiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr amserlen, y gofynion ffotograffiaeth, y lleoliadau, y casglu pynciau, y dyddiad cau terfynol ac ati.
- Os ydych chi’n defnyddio camera digidol dechreuwch gyda cherdyn cof gwag a batri wedi’i wefru. Cariwch un sbâr o’r ddau. Bydd batri a gwefrwr dros ben yn eich cadw yn y gêm. Mae cerdyn cof dros ben yn golygu y gallwch greu lluniau eraill wrth i chi fynd (os oes gennych ddigon o egni).
- Os ydych chi’n defnyddio ffôn clyfar, gwefrwch ef dros nos a dewch â’ch gwefrwr.
- Bydd defnyddio eich ffôn clyfar yn y modd awyren yn diogelu oes eich batri ac yn cadw eich sylw ar eich ffotogread.
- Gwisgwch ddillad priodol. Esgidiau cyfforddus, trowsus a aiff yn fudr, a phaciwch ddillad ar gyfer newid tywydd posibl.
- Ymunwch â’r digwyddiad gyda ffrind. Bydd y camera gan un ohonoch, a bydd y ddau ohonoch yn rhannu syniadau. Mae dau ben yn well nag un. Cewch hefyd dreulio amser gyda’r person hwnnw a dod i wybod sut mae’n meddwl.
- Pwyll piau hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys seibiannau a lluniaeth; mae’n ddigwyddiad sy’n profi dygnwch.
- Yn aml, rydych yn fwy creadigol yn ystod yr hanner cyntaf, ond yn fwy pendant eich penderfyniad yn yr ail hanner. Mae’r cyffro ar y dechrau yn creu mwy o syniadau a lluniau. Mae blinder yn eich gwneud yn fwy pendant. Ceisiwch fod yn bendant yn yr hanner cyntaf ac yna byddwch yn fwy creadigol yn yr ail hanner.
- Penderfynwch ar bob llun terfynol ar gyfer pob pwnc wrth i chi fynd. Peidiwch â gadael hynny tan y diwedd, byddwch wedi blino. Gwnewch bob pwnc yn ei dro. Cwblhewch a dewis un llun yn unig ar gyfer y pwnc ac yna symud ymlaen. Bydd hyn yn rhoi eglurder creadigol.
- Trafodwch ac edrychwch ar y lluniau pwnc gyda’ch gilydd, ond penderfynwch yn eich pâr pwy sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar ddewis llun (y ffotograffydd fel arfer).
- Defnyddiwch wybodaeth arbenigol. Mae’n ddefnyddiol os ydy un ohonoch yn adnabod y Barri. Os nad ydych chi’n adnabod y dref, siaradwch â phobl leol. Gofynnwch am gyngor. Fodd bynnag, peidiwch â gadael i’ch gwybodaeth am y Barri eich cyfyngu rhag gweld beth sydd o’ch blaen.
- Ystyriwch ddewis thema gyffredinol syml i gysylltu’r lluniau. Gallech ddefnyddio prop i wneud hyn (e.e. ffigwr Lego bach sy’n ymddangos ym mhob llun). Gallech ddewis thema, fel lliw neu dechneg – coch neu bwynt isel/uchel.
Mae’n bosib cymryd rhan yn gyfan gwbl ar droed. Mae gan y Barri wahanol ardaloedd i’w harchwilio ond gallwch gerdded o un lle i’r llall, e.e. mae Ynys y Barri tua 15 munud ar droed o ben gorllewinol y dref.
Os ydych yn defnyddio car, ymgyfarwyddwch â’r rhwydwaith ffyrdd o amgylch y Barri, neu os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, edrychwch ar yr amserlenni bysus a threnau. Mae 4 gorsaf drenau yn y Barri: Cadoxton, Dociau’r Barri, y Barri, ac Ynys y Barri.
Dyma sioe sleidiau o'r holl luniau a gyflwynwyd ar gyfer ffotoBARRIthon 2020. Dewiswch eich ffefrynnau eich hun ac yna edrychwch ar y lluniau buddugol isod i weld a ydych chi'n cytuno â'r beirniaid!
Oriel enillwyr PhotoBARRYthon 2020.
Digwyddiadau i ddod
Mae gan Y Barri rhaglen brysur o ddigwyddiadau blynyddol sy’n amrywio o sinema awyr agored, triathlon, Gwyl Fach y Fro a digwyddiadau a arweinir gan artistiaid.