Parc Gwledig Porthceri
Cyfrinach gorau’r Barri!
Mae Parc Gwledig Porthceri yn cynnwys 220 erw o goedwigoedd a ddoldir, traeth cerrig, a thraphont dramatig Fictoraidd. Mae Cliffwood yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol oherwydd planhigion prin fel y maenhad gwyrddlas a’r gwir goeden wasanaeth sy’n tyfu gerllaw planhigion eraill mewn perygl, ac sy’n mwynhau hinsawdd fwyn clogwyni deheuol y Barri.
Mae ap (Saesneg) ar gael i’w lawrlwytho a bydd yn gwneud archwilio’r parc hyd yn oed yn fwy pleserus:
- Gan ddefnyddio realiti estynedig (RE), gallwch gwrdd â Henry Ringham, y defnyddiwyd ei gwmni i drwsio’r draphont ar ôl iddi ddechrau dadfeilio.
- Dysgwch am y diodydd hudol a grëwyd gan Ann Jenkin, gwrach Bwthyn Cliffwood, a’r ffordd y gallai fod wedi swyno pobl.
- Sylwch ar Felin Lifio Cwmcidi yn ymddangos ar ben ei sylfeini a gweld sut y’i gweithredwyd gan ddefnyddio’r pwll dwy ffrwd uwch ei ben.
- a chasglu llwybrau a ysgogwyd gan GPS…
Digwyddiadau i ddod
Mae gan Y Barri rhaglen brysur o ddigwyddiadau blynyddol sy’n amrywio o sinema awyr agored, triathlon, Gwyl Fach y Fro a digwyddiadau a arweinir gan artistiaid.