Byw
Credwn fod y Barri yn lle gwych i fyw!
Mae'r Barri yn lle gwych i fyw! Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig. Yn y blynyddoedd diweddar, bu'r Barri yn gyson ar frig rhestr a luniwyd gan y Ganolfan Ymchwil Economaidd a Busnes, o’r lleoedd mwyaf dymunol i fyw ynddynt yng Nghymru, wedi’u rhestru yn ôl cydbwysedd gwaith a bywyd, a mynediad at ysgolion da a mannau gwyrdd. Ar ben hynny, o gwmpas y Barri mae porfeydd tonnog Bro Morgannwg, ei phentrefi hynod, ei lleoedd hanesyddol a’i threfi marchnad sy’n llawn siopau bwtîc a bwytai blasus.