Hanes
O ddeinasoriaid i docwyr, mae gan Y Barri hanes maith a hynod ddiddorol.
O’r Oesoedd Canol Cynnar hyd at yr Oesoedd Canol, bu‘r Barri yn gyrchfan pwysig i bererinion. Ystyriwyd bod pedwar pererindod i eglwys Sant Baruc ar Ynys y Barri yn gyfwerth ag un i Rufain.
Erbyn 1913, Y Barri oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd.
Yn y 18fed ganrif, pan oedd Môr Hafren yn gorlifo â smyglwyr a môr-ladron, roedd Ynys y Barri wrth wraidd eu teyrnas dyfrllyd. Daeth yn gadarnle’r smyglwr Thomas Knight a oedd yn rhedeg fflyd o longau smyglo arfog, yn mewnforio gwirodydd a thybaco o Ynysoedd y Sianel, a sebon o Iwerddon.
Yn ystod yr 1880au, dewiswyd Y Barri gan David Davies a diwydianwyr blaenllaw eraill i’w datblygu fel porthladd glo er mwyn rhyddhau Tiger Bay yng Nghaerdydd, a chyflymu allforio glo o byllau Davies yn y Rhondda. Agorodd Dociau’r Barri ym 1889.
Ffurfiodd grŵp o berchnogion pyllau glo Gwmni Rheilffordd Y Barri a dewis cysylltu meysydd glo Cymoedd y De â’r dref, ac felly datblygodd y porthladd ar raddfa ddiwydiannol. Erbyn 1913, Y Barri oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd.
Denodd y porthladd weithwyr o bedwar ban byd i fanteisio ar ffyniant diwydiannol y dref a thyfodd y galw am gartrefi i weithwyr, gan greu cymuned amlddiwylliannol gyfoethog. Heidiodd cloddwyr o Iwerddon, a labrwyr o Orllewin Lloegr a Sgandinafia i adeiladu rhes ar ben rhes o dai teras mewn calchfaen a briciau lleol. Yng nghanol y ffyniant diwydiannol, dechreuodd ymwelwyr dydd ddod yn eu miloedd ar y rheilffordd a adeiladwyd i gludo glo, i fwynhau stribed Ynys y Barri o dywod disglair.
Bu’r Barri yn croesawu ymwelwyr ers oes Fictoria, ond daeth yn wirioneddol boblogaidd ar ôl i Ynys y Barri gael ei chysylltu â’r tir mawr gyda rheilffordd ym 1896. Daeth yn gyrchfan poblogaidd i lowyr, gweithwyr diwydiannol a’u teuluoedd ledled De Cymru a thu hwnt. O ddechreuad di-nod, sefydlwyd ffair ac o ganol y 60au i ganol yr 80au, roedd Y Barri yn em disglair yng nghoron ymerodraeth gwyliau Butlin’s!
Hanes y Barri
Môr-ladron a’r Hen Harbwr
Môr-ladron Ynys y Barri yn y dyddiau pan oedd yn dal i fod yn ynys go iawn.
Darllen mwyEnwogion Y Barri – y Dylanwadwyr!
Cynhyrchodd y Barri bobl ddylanwadol hefyd - un arall o'i allforion gwych!
Darllen mwyDavid Davies, Teicŵn Cyntaf Cymru
David Davies, y dyn a sefydlodd y dociau ac a wnaeth y Barri yn unigryw.
Darllen mwyCapeli y Barri
Roedd oes aur adeiladu’r capeli yng Nghymru’n cyd-fynd â'r chwyldro diwydiannol.
Darllen mwyStoriau’r Stryd Fawr
Sŵn traed ar y Stryd Fawr, cwsmeriaid chwilfrydig, y caeadau’n codi, a’r siopwyr prysur yn paratoi am y dydd.
Darllen mwyY Barri Triasig
Mae’r ardal arfordirol y Bendricks yn un o’r lleoliadau gorau yn y DU i weld olion traed dinosoriaid o’r cyfnod Triasig Uchaf.
Darllen mwySant Barrwg
Yn ôl y gred, ffurf wreiddiol enw Ynys y Barri oedd Ynys Sant Barrwg ac y mae’n cyfeirio at hanes anffodus Sant Barrwg.
Darllen mwyYsgol Haf Y Barri
Yn ystod canol y 20fed ganrif, roedd Coleg Addysg Morgannwg yn y dref yn trefnu Ysgol Haf Y Barri oedd yn fyd-enwog.
Darllen mwySwyddfa’r Doc
Mae’r adeilad nodedig hwn i’w weld yn glir yn nenlinell y Barri, yn edrych dros y dociau. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1897 a 1900
Darllen mwy