Ysgol Haf Y Barri
Yn ystod canol y 20fed ganrif, roedd Coleg Addysg Morgannwg yn y dref yn trefnu Ysgol Haf Y Barri oedd yn fyd-enwog.
Roedd yn arddel ymagweddau arloesol newydd at gelf ac addysg a denodd ddisgyblion ac arlunwyr eiconig o bedwar ban byd gan gynnwys Tom Hudson, George Brecht, Robin Page, John Epstein, y cerddor Jas Larry Adler ac arlunydd yr Academi Frenhinol heddiw, Terry Setch.
Daeth tua 750 o fyfyrwyr i’r ysgol, dros ddwy noson brysur. Addysgwyd cerflunwaith gan Tom Hudson, Kenneth Martin a Harry Thubron ynghyd â llawer o gynorthwywyr a oedd yn artistiaid proffesiynol. Addysgwyd crochenwaith gan Dan Arbeid a Louis Hanssen o Ysgol Ganolog Celf a Chrefft Llundain. Addysgwyd tecstilau gan Ann Sutton (sydd nawr yn Athro ac MBE). Roedd yr athrawon peintio yn cynnwys Michael Kidner, Jeffrey Steele a Bert Isaac. Dim ond ffracsiwn o’r hyn a addysgwyd oedd hyn. Roedd y pynciau eraill yn cynnwys ffotograffiaeth, gwaith lledr, gwaith coed, pypedwaith, drama, rheoli llwyfan a cherddoriaeth.
Y nod oedd addysgu pawb o bob lefel a phob cefndir gyda’i gilydd, ac roedden nhw’n credu, drwy weithio’n greadigol ochr wrth ochr, y byddai’r amatur a’r proffesiynol yn elwa ac yn helpu ei gilydd. Mae effaith Tom Hudson yn glir o edrych ar yr arddangosfa gelf ar y lawnt – cafodd ei chynhyrchu dros bythefnos drwy ei waith addysgu ac ymdrechion adeiladu a gwneuthur y myfyrwyr.
Aeth yr Ysgol Haf o nerth i nerth yng nghanol y 60au, gan ofyn am lety newydd. Sicrhaodd Leslie Moore, Dirprwy Bennaeth y Coleg a’r Trefnydd Celf a Chrefft ar gyfer Morgannwg, nad oedd y niferoedd cynyddol yn effeithio ar ansawdd y cwrs, gan barhau i gynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau celf a chrefft wedi’u haddysgu gan yr athrawon gorau sydd ar gael.













