Castell y Barri
Dim ond ffracsiwn o’r castell a arferai sefyll yma sy’n weddill o Gastell y Barri, er nad oedd erioed yn gastell yn yr ystyr cadarnle milwrol. Wedi’i adeiladu ar safle hen fferm Brythonig-Rufeinig, roedd yn faenordy ag amddiffynfeydd.
Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, rhannwyd yr ardal yn faenoriaid gydag ardal y Barri wedi’i rhannu’n ddwy arglwydd fawr, Pen-marc a Dinas Powys. Rhannwyd Penmarc yn is-faenorau Fonmon, Gorllewin Pen-marc a’r Barri. Rhoddwyd is-faenor y Barri i Odo, Marchog Normanaidd, a gynorthwyodd yng Ngorchfygiad Normanaidd Lloegr yn ystod yr 11g. Fel gwobr am ei wasanaethau milwrol, rhoddwyd ystadau i Odo yn Sir Benfro ac o amgylch y Barri, gan gynnwys Ynys y Barri.
Gwnaeth ŵyr Odo, Gerald o Gymru (1146-1223), rhoi tarddiad enw ei deulu, de Barri, yn ei Itinerarium Cambriae (1191):
‘nid nepell o Gaerdydd y mae ynys fach o’r enw’r Barri, o Sant Barrwg, a arferai fyw arni, ac y mae ei olion wedi’u gadael mewn capel sydd wedi’i orchuddio ag iorwg….o’r ynys hon y cafodd teulu nobl, o rannau morwrol De Cymru, a oedd yn berchen ar yr ynys a’r ystadau cyfagos, yr enw de Barri.’
Roedd teulu’r de Barri yn dal y faenor dan ddeiliadaeth ffiwdal fel is-faenor o’i uwch-arglwyddi – y teulu de Umfraville o Ben-marc. Roedd maenor y Barri yn cael ei dal ar ffi un marchog. Golygai hyn bod yn rhaid i arglwydd preswyl y Barri ddarparu gwasanaeth milwrol i’w uwch-arglwydd yn ôl yr angen.
Gwnaeth y teulu de Barri y castell yn gartref iddynt.
Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am gyfnod pensaernïol cynnar Castell y Barri, ond erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, roedd o leiaf ddau adeilad cadarn o faen yma – un ar ochr ddwyreiniol y castell a’r llall ar yr ochr orllewinol. Er nad ydynt bellach yn weladwy uwchben y ddaear, cafodd yr adeiladau hyn eu darganfod tra’n cloddio’r tir ym 1960 a 1979. Mae’r olion presennol yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac maen nhw’n cynnwys porthdy sy’n ffinio â chyntedd, sylfeini tŵr de-orllewinol, a llenfuriau i’r gorllewin, y gogledd a’r dwyrain.
Mae’r porthdy yn dal i fod yn strwythur trawiadol heddiw. Byddai wedi cael pont godi a phorthcwlis, a dau ddrws mewnol. Uwchben y porthdy roedd cyntedd cromennog ac roedd yr ystafell uwchben yn gweithredu fel capel gydag allor fach o fewn sil y ffenestr ddwyreiniol. Yn uniongyrchol uwchben y brif fynedfa roedd ffenestr bigfain fawr (tua 1310-50) wedi’i gogwyddo, ac mae’r cilbost chwith wedi goroesi hyd heddiw, yn ogystal â phen wedi’i erydu a fyddai wedi ffurfio un rhan o bortread o farchog a’i wraig.
Y neuadd (mae rhan o’r wal wedi goroesi hyd heddiw) oedd yr adeilad mwyaf a mwyaf crand yng Nghastell y Barri ac roedd yn ffurfio rhan o wal y ffin ddeheuol. Roedd dwy lefel i’r neuadd. Roedd y neuadd fawr ar y lefel uwch a’r lefel isaf yn seler neu stordy. Byddai ei waliau mewnol wedi’u rendro ac, o bosibl, wedi cynnwys cerrig nadd ffug, arwyddluniau herodrol, golygfeydd crefyddol neu olygfeydd o fywyd bob dydd wedi’u paentio ar y plastr. Byddai’r neuadd wedi cynnwys trawstiau pren a fyddai wedi gorffwys ar gorbelau maen, y mae rhai ohonynt wedi goroesi hyd heddiw, yn ogystal â gwaith coed wedi’i gerfio a’i baentio, addurniadau maen, a lle tân mawreddog wedi’i osod o fewn y wal ogleddol. A dweud y gwir, mae’n debyg y byddai wedi bod yn ystafell liwgar.
Trosglwyddo perchnogaeth y faenor o deulu’r Barri i’r St John’s o Fonmon yn 1386 oedd dechrau dirywiad Castell y Barri. Mae’n ymddangos na fuddsoddwyd mewn cadw a chynnal yr adeilad. Fodd bynnag, mae’n debygol y gwnaeth y pla a newyn, gyfrannu at y dirywiad, oherwydd gwnaeth archeoleg pentref y Barri ddarganfod nad oedd un o’r adeiladau a gloddiwyd yn dangos tystiolaeth o feddiannaeth yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg na’r bymthegfed ganrif. Erbyn y 1530au roedd Castell y Barri wedi mynd yn adfail.
Cafodd Castell y Barri fywyd newydd ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg pan gododd William Wilkyn, dyn busnes lleol, fwthyn o fewn cragen yr hen neuadd a weithredodd fel tafarn hefyd. Byddai morwyr yn cyrraedd yr Hen Harbwr ac yn gwneud y daith fer fer i fyny o’r Hen Harbwr, heibio i eglwys ganoloesol Sain Nicolas, ac i dafarn castell y Barri, oherwydd yn ôl y cofnodion, roedd mwy na dim ond cwrw ar gynnig. Ym 1583 cafodd William ei gyhuddo o werthu cwrw heb drwydded ac am gadw puteiniaid.
Ym 1666 gwerthodd y teulu St John faenor y Barri i Evan Says a thrwy gydol yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif roedd porthdy Castell y Barri yn cael ei ddefnyddio fel man cyfarfod ar gyfer llysoedd maenoraidd a oedd fwy na thebyg wedi cyfrannu at gadw’r adeilad mewn cyflwr da. Tynnwyd bwthyn William Wilkyn i lawr ym 1800. Yn fwy diweddar, dinistrwyd sylfeini yng nghornel y de-orllewin pan adeiladwyd lloches cyrch awyr yn ystod Ail Ryfel Byd.
Grŵp dawns gyfoes o Motion Control Dance yng Nghastell y Barri.
Gyda diolch i Mark a Jonathan Lambert am rannu eu ymchwil. Gallwch ddarganfod mwy ar eu blog.













