Enwogion Y Barri – y Dylanwadwyr!

There are many kinds of ‘greatness’ and different types of great Barrians, from sporting legends to distinguished academics. The group in focus here were all great influencers. In some way, they were instrumental in pushing through social reform, and influencing changes in government policy.

Abdulrahim Abby Farah 1919-2018

Roedd yn ddyn a oedd yn byw bywyd rhyfeddol, rhywun y dylem i gyd wybod amdano ond yn aml aiff ei hanes yn angof. Abdulrahim Abby Farah yw’r dyn o’r Barri a ddaeth yn Uwch Ddiplomydd y Cenhedloedd Unedig, gan arwain Cenhadaeth y Cenhedloedd Unedig ym 1990 a oruchwyliodd y gwaith o ddatgymalu gwladwriaeth apartheid De Affrica.

Ganed Abdulrahim ym 1919 yn ystod cyfnod sylweddol o anghyfiawnder a rhagfarn hiliol. Roedd ei fam, Hilda Anderson, yn rhedeg tŷ preswyl tra roedd ei dad, Abby Farah, o Somalia yn forwr ac yn entrepreneur. Roeddent ill dau’n aelodau gweithgar o’r gymuned a helpon nhw i sefydlu’r Clwb Dominos amlhiliol ar Thompson Street. Yn ystod ei fagwraeth yn y Barri, mynychodd Abdulrahim Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Ramadeg Sir y Barri.

Roedd Abdulrahim yn angerddol dros bobl a’i ddiben oedd diogelu eu hawliau. Pan oedd yn ddwy ar bymtheg, anfonwyd Farah i Hargeisa, yn Somaliland Prydain. Cyn y Rhyfel fe’i penodwyd yn ynad gyda Gwasanaethau Trefedigaethau Prydain. Yna bu’n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd fel comando i’r Lluoedd Prydeinig yn nwyrain Affrica. Ar ôl y Rhyfel, astudiodd Weinyddiaeth Ddinesig yn Exeter ac yn Rhydychen cyn dychwelyd i Affrica, ble treuliodd y 1950au yn gweithio yn Nhiriogaeth Ymddiriedolaeth Somaliland.

Roedd hwn yn gyfnod o newid, roedd gwleidyddiaeth Affrica yn newid a chafodd Abdulrahim ei hun yn ei chanol. Yn ystod y 1960au daeth yn Llysgennad Somalia yn Ethiopia ac yn y pen draw daeth yn gynrychiolydd parhaol Somalia i’r Cenhedloedd Unedig. Cynrychiolodd y wlad newydd yng Nghymdeithas Undeb Affrica a chyda Chomisiwn Economaidd Affrica’r Cenhedloedd Unedig.

Roedd yn ffigwr rhyngwladol, yn elfen hanfodol o gynnal perthynas y Cenhedloedd Unedig â Somalia a De Affrica. Crëwyd Pwyllgor Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Apartheid ym 1969 ac Abdulrahim oedd y Cadeirydd. Bu’n Llywydd cyfarfod chwe diwrnod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar ‘Gwestiynau’n ymwneud ag Affrica’, ynghyd ag Umar Arteh Ghalib, a phleidleisiwyd ar benderfyniadau am annibyniaeth i Nabibia, beirniadaeth ar gyfundrefn apartheid De Affrica a’r gorthrwm parhaus yn nhiriogaethau Portiwgal yn Affrica. Yn ysgrifennu ar destun Apartheid ym 1974, dechreuodd ei achos drwy ddadlau: “Mae bodolaeth polisi apartheid Llywodraeth De Affrica, sy’n hiliaeth ar ei ffurf fwyaf eithafol, yn her o’r un drefn foesol â chaethwasiaeth yn y ddeunawfed ganrif, neu erledigaeth yr Iddewon gan y Natsïaid yn yr ugeinfed ganrif.” Roedd hwn yn ddatganiad mawr ar y pryd ac mae’n dal i fod yn ddylanwadol heddiw.

Abdulrahim Abby Farah died in May 2018, aged 98 years old

Os hoffech wybod mwy, gallwch wylio a gwrando ar y cyflwyniad hwn gan Jamie Baker.

Sut mae dyn y mae’n amlwg ei fod wedi cyflawni cymaint yn y byd, yn dal i fod mor anhysbys yn y wlad ble cafodd ei eni a'i fagu? Ian Johnson, Cynghorydd Tref y Barri

Eirene Lloyd White (y Farwnes White) 1909-1999

Derbyniodd Eirene urddolaeth oes yn 1970 yn sgil gyrfa wleidyddol uchelgeisiol a llwyddiannus. Ganwyd yn Anwylfan, St Johns Avenue, Belfast ym 1909, a roedd ei thad, Dr Thomas Jones, o dras Cymreig. Yn ystod blynyddoedd cyntaf Eirene bu’n byw rhwng y Barri a Llundain ac anfonodd ei thad hi i’r capel Methodistaidd i ddysgu’r Gymraeg. Aeth i’r ysgol gynradd yn y Barri a phan oedd yn ferch fach, daeth Mrs Pankhurst i ymweld â’i rhieni yn eu cartref yn Park Road. Roedd Eirene yn cofio cael eu gwisgo mewn ffrog wen gyda sash gwyrdd, porffor a gwyn y swffragetiaid. Pan oedd yn 10 oed symudodd y teulu i Lundain, lle roedd ei thad yn gweithio gyda David Lloyd George. Yna aeth Eirene i Ysgol Merched Sant Pawl ym 1920 ac ym 1929 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Somerville, ble astudiodd athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg.

Ar ôl ei hastudiaethau, roedd gan Eirene awydd i deithio i Ewrop yn gyntaf, yna i America ym 1931 yn gweithio fel cynghorydd yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd. Dychwelodd i Gymru’n hapus a’i huchelgais oedd dilyn gyrfa wleidyddol. Ymddiswyddodd o’r gwasanaeth sifil, yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol, er mwyn ceisio sedd yn yr etholiad cyffredinol nesaf fel ymgeisydd dros y Blaid Lafur. Yn etholiad cyffredinol 1945 cafodd ei henwebu fel ymgeisydd Llafur dros Sir y Fflint, ble cafodd ganlyniad clodwiw bron yn trechu’r ymgeisydd Ceidwadol Nigel Birch.

Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennai hefyd gyda’r Manchester Evening News, y fenyw gyntaf i ddal swydd o’r fath. Ym 1950 cafodd ei hethol yn AS dros ddwyrain Sir y Fflint (sedd ymylol wnaeth ddal am 20 mlynedd), ac argyhoeddodd y Blaid Lafur i bleidleisio dros dâl cydradd i fenywod yn y sector cyhoeddus. Yn y 1960au bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa’r Trefedigaethau, ac yn ddiweddarach yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor ac yn y Swyddfa Gymreig.

Dilynodd yn ôl traed ei thad ac roedd hi’n debyg iddo yn gorfforol hefyd. Er nad oedd bob amser yn ofalus sut roedd yn siarad nac yn meddu ar synnwyr digrifwch mawr, roedd ganddi sgiliau deallusol a gweinyddol sylweddol, yn ogystal â charedigrwydd mawr. Roedd yn fenyw wleidyddol, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar y frwydr dros sosialaeth a diddymu anghydraddoldebau dosbarth, yn hytrach na’r ymdrech i gael hawliau menywod. Nid oedd amheuaeth ynghylch ei hymroddiad i Gymru ac roedd yn dadlau’n barhaus dros gyrff addysgol ac amgylcheddol Cymru.

Bu farw’r Farwnes White ym 1999 a chafodd ei llwch ei wasgaru yn y Barri, ble treuliodd blentyndod hapus iawn.

Gwynfor Richard Evans 1912-2005

Ydych chi’n gwylio S4C? Ydych chi erioed wedi pleidleisio dros Blaid Cymru? Efallai eich bod yn meddwl tybed sut mae’r ddau beth yn gysylltiedig. Bu’r gwleidydd, y cyfreithiwr a’r awdur Gwynfor Richard Evans yn hanfodol yn natblygiad y ddau. Fe’i ganwyd yn y Barri ym 1912, a chafodd ei gyflwyno ar unwaith i’r llawenydd a ddaw o fyw ar yr arfordir a’r stryd fawr brysur, gyda’i ddau riant yn siopwyr (yn rhedeg siop adrannol ‘Dan Evans’).

Mynychodd Gwynfor Ysgol Gladstone Road ac Ysgol Sir y Barri, ble dechreuodd ddysgu Cymraeg. Bu hon yn rhan hanfodol o’i hunaniaeth, daeth yn rhugl yn y Gymraeg yn ddwy ar bymtheg a llywiodd hyn ei holl gyflawniadau diweddarach. Yna astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, gan raddio fel cyfreithiwr. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, arhosodd Gwynfor yn wladgarol a sefydlodd gangen o Blaid Cymru.

Yn ystod ei yrfa wleidyddol bu Gwynfor yn aelod gweithgar o Blaid Cymru a fe fu’r AS cyntaf i gynrychioli’r blaid yn San Steffan. Daeth yn llywydd y blaid ym 1945 a pharhaodd yn y rôl tan 1981. Roedd Gwynfor yn siaradwr argyhoeddiadol ond roedd yn ddyn addfwyn ym myd gwleidyddiaeth, ac roedd yn heddychwr. Mae’n dal yn enwog am wrthwynebu cefnogaeth Llywodraeth Prydain i Lywodraeth Ffederal Nigeria, a gyflenwodd arfau yn y rhyfel sifil yn erbyn Biafra.

Fel gwleidydd, bu ei dreftadaeth Gymreig yn ysgogydd i lawer o’i weithredoedd, gan gynnwys bygythiad i fynd ar streic ymprydio ar ôl i’r llywodraeth Geidwadol dorri ei haddewid etholiadol o sefydlu sianel deledu Gymraeg. Gorfododd ei fygythiad y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, i wyrdroi, gan arwain at graffito enfawr, “Gwynfor 1, Thatcher 0” ar arglawdd afon Tafwys gyferbyn â San Steffan. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, crëwyd S4C, yr un sianel yr ydym i gyd yn ei mwynhau heddiw. Bu farw Gwynfor yn 2005 ac fe’i cofir fel llysgennad dros genedligrwydd Cymru.

Dorothy M Rees DBE 1898-1987

Rhaid dathlu Dorothy M Rees, athrawes a AS benywaidd cyntaf de Cymru, fel un o fawrion y Barri. Fe’i ganwyd ym 1898, roedd yn ferch i weithiwr dociau ac fe’i magwyd yn ystod cyfnod o ddiwydiannu. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Barri ac aeth ymlaen i hyfforddi fel athro ysgol yng Ngholeg Hyfforddi’r Barri.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n gweithio fel swyddog cyswllt i’r Weinyddiaeth Fwyd a dyma dechreuodd ei gyrfa mewn materion dynol a gwleidyddiaeth. Roedd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref y Barri, a Chyngor Sir Morgannwg o 1934 a daeth yn gadeirydd arno ym 1964-5 (yr ail fenyw i gyflawni’r swydd honno). Roedd Dorothy yn aelod gweithgar o’r gymuned ac roedd yn ymddiddori ym mhob maes datblygu.

Bu’n AS Llafur dros etholaeth hynod ymylol y Barri o 1950 tan 1951, yn gweithio fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Fonesig Edith Summerskill, y Gweinidog dros Yswiriant Gwladol. Cafodd ei hun yng nghanol cylchoedd amlwg ac fel menyw roedd yn uchel ei pharch, hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli de Cymru yn y senedd. Yn etholiad cyffredinol 1951 collodd o drwch blewyn i’r ymgeisydd Ceidwadol Syr Raymond Gower. Fodd bynnag, parhaodd Dorothy â’i gwaith fel ymgeisydd Llafur y Barri ac fe’i penodwyd yn Rhyddfreiniwr y Barri ym 1956.

Bu ar lawer o baneli a phwyllgorau yn cwmpasu ystod eang o ddiwydiannau o iechyd i addysg. Bu’n gadeirydd Pwyllgor Rheoli Ysbytai Morgannwg a Phwyllgor Eisteddfod Genedlaethol y Barri ym 1966-68. Mynychodd hefyd Gyd-bwyllgor Addysg Cymru, y Pwyllgor Ymgynghorol Cenedlaethol dros Yswiriant a Bwrdd Ysbytai Athrofaol Cymru. Roedd Dorothy yn anhygoel o angerddol ac bu’n dadlau dros hawl menywod i gael addysg uwch. Fe’i gwnaed yn CBE ym 1964 a DBE ym 1975.

Bu farw ym 1987 a gallwch weld plac sy’n coffáu ei bywyd yn 6 Newland Street, y Barri.