Capeli y Barri
Adlewyrchwyd cryfder cynyddol Anghydffurfiaeth yng Nghymru, a’r cynnydd dramatig yn y boblogaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, yng nghyfrifiad crefyddol 1851 a gofnododd fod bron i 80% o addolwyr yng Nghymru’n mynychu capel anghydffurfiol. Cofnododd cyfrifiad 1851 hefyd fod mwy o bobl wedi’u cyflogi mewn diwydiant nag mewn amaethyddiaeth. Roedd gan bob cymuned ddiwydiannol ei chlwstwr o addoldai ynghanol pob pentref neu dref. Roedd oes aur adeiladu’r capeli yng Nghymru’n cyd-fynd â sefyllfa’r wlad ar y pryd fel y gymdeithas bennaf ddiwydiannol gyntaf yn y byd.
Ffynnodd porthladd y Barri yn oes Fictoria ac Edward wrth i faes glo de Cymru ddarparu tanwydd i lyngesau’r byd a chyflenwadau i ran helaeth o ddiwydiant Canoldir Ewrop. Adeiladwyd capeli ac ysgoldai anferthol newydd yma; ar un adeg mae’n debyg yr oedd dros 30 o gapeli yn y Barri (yn cynnwys Ynys y Barri) ac o leiaf 7 o’r rhain yn gapeli Cymraeg.
Yn y Barri, roedd llawer o’r capeli cyntaf i’w hadeiladu yn adeiladau rhychiog haearn. Pan dyfodd y gynulleidfa a phan ddaeth mwy o arian ar gael disodlwyd y rhain gan adeiladau parhaol mwy o faint, gan osod y pulpud yn aml ar y talcen ôl, yn wynebu’r fynedfa yn y talcen blaen. Elfennau annatod eraill oedd y bwrdd cymun diaddurn a’r sêt fawr yn union o flaen y pulpud, lle’r eisteddai’r blaenoriaid neu’r diaconiaid a oedd wedi’u hethol gan yr aelodau. Byddai awyrgylch theatraidd grymus mewn awditoriwm caeedig o’r fath bob amser yn cynnig cyfle i bregethwr huawdl.
Methodist Calfinaidd oedd David Davies, y contractwr rheilffyrdd a’r diwydiannwr a sefydlodd borthladd y Barri a Glofeydd Cwmni Ocean yn y Rhondda. Helpodd i ariannu llawer o gapeli gan gynnwys Capel Bethel a godwyd ym 1872-73 yn ardal ei gartref yn Llandinam. Ym 1903, rhoddodd mab Davies, yr Arglwydd Davies o Llandinam, rodd sylweddol i’r Forward Movement a oedd wedyn yn gallu adeiladu The Mission Hall, gan eistedd 400 ar y llawr gwaelod a 300 yn y galeri. Adeiladwyd neuadd ysgol hefyd gyda lle i 300, ac mewn diolch am y rhodd fe’i henwyd yn Neuadd Dinam.
Adeiladwyd Capel Annibynnol y Tabernacl gyntaf ym 1890 fel strwythur haearn rhychog dros dro am £380. Roedd yna ddau gapel Cymreig yn barod yn y Barri ar y pryd – Bryn Seion yn Cadoxton a Bethesda yn y Barri – a’u cynulleidfaoedd yn ehangu wrth i fwy o weithwyr symud i’r Barri. Penderfynwyd bod angen trydydd capel yn rhywle rhyngddynt, ger Dociau’r Barri. Tyfodd cynulleidfa’r Tabernacl hefyd yn fuan ac adeiladwyd capel newydd ym 1894 am £2100. (Gwerthwyd y strwythur haearn rhychog i Eglwys Gynulleidfaol Tynewydd Road yn Wyndham Street am £120, yna symudwyd i Weston Hill ym 1900 a’i brynu’n ddiweddarach gan Glwb Bocsio Amatur y Barri.) Yr arddull bensaernïol yw ‘Is-Glasurol’ gyda mynediad talcen, dau lawr a ffenestri plwm â phen gwastad, a ddyluniwyd gan y penseiri Seward & Thomas o Gaerdydd.
O 1899 y Parch. Ben Evans oedd y gweinidog, ac yn ystod ei 15 mlynedd gyntaf tyfodd y gynulleidfa i 393. Yn 1914 addaswyd y capel i wneud lle ar gyfer 400 o bobl, a’i ymestyn yn y cefn i greu lle gwell ar gyfer yr Ysgol Sul. Prif atyniad y tu mewn i’r capel yw’r pulpud, wedi’i gerfio gan Mr John Phillips, gwerthwr llaeth ar Holton Road. Ei ddiddordeb mawr yn ei amser hamdden oedd cerfio coed, a cyflwynodd y pulpud fel rhodd i’r eglwys.
Caeodd y Tabernacl ym mis Rhagfyr 2019 ond mae’r gynulleidfa’n parhau i gwrdd yng Nghanolfan Mileniwm St Francis (a oedd ar un adeg yn gapel Annibynnol). Gwyliwch y ffilm i gwrdd â rhai o’r aelodau a chlywed eu straeon a’u hatgofion o’u hamser yn y Tabernacl.
Am fwy o wybodaeth am hanes y Bedyddwyr yn y Barri cliciwch yma.













