Storiau’r Stryd Fawr
Mae’r Stryd Fawr wastad wedi bod yn lle canolog i fasnachu, ond y tu ôl i flaenau’r siopau mae hanes cudd yn aros i gael ei ddarganfod.
Wedi’u hadeiladu yn y 19eg ganrif, yn ystod y cyfnod o ddiwydiannu, mae’r siopau wedi cynnig popeth y gallai trigolion lleol fod ei angen, o ffrwythau a llysiau traddodiadol, bwydydd wedi’u pobi a blodau, ac maent bellach wedi ymestyn i driniaethau lles a gwaith celf a gynhyrchir yn lleol. Mae’n gymuned, yn deulu wedi’i ddwyn ynghyd am wahanol resymau, wedi’i huno drwy ei theyrngarwch a’i brwdfrydedd dros y Barri.
Er yn lle cyfleus, mae’r Stryd Fawr bellach yn cael ei nabod fel lle i ymweld â hi. Mae wedi bod yn lle cyson yn y Barri yn ystod cyfnodau o galedi, dirywiad economaidd ac adfywio. Mae lle arbennig iddi mewn llawer o galonnau, gan ddwyn atgofion hiraethus am arogl bara ffres, trymder y losin ‘pick & mix’ ym mhoced eich gwisg ysgol a labrinth yr haearnwerthwr. Mae cenedlaethau gwahanol wedi gweld busnesau’n mynd a dod, ond mae’r mwynhad o fasnachu ar y Stryd Fawr mor ffres â’i chynnyrch.
Y dyddiau hyn mae’r Stryd Fawr yn cael ei chydnabod fel Cwr Siopa Annibynnol Arobryn, ond nid yw’r syniad hwn yn newydd. Mae bob amser wedi masnachu â chynnyrch lleol, gyda theuluoedd wrth y llyw. Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi masnachu gyda phobl leol, wedi croesawu pobl ar eu gwyliau ac wedi cadw eu drws yn agored i gymuned gyfagos. Nid rhes o siopau’n unig yw hi, mae’n fan lle cewch eich adnabod wrth eich enw cyntaf, lle caiff eich archeb ei rhoi ar gof a lle cewch eich trochi mewn tapestri cyfoethog o hanes.
Drwy gydol amser mae’r Stryd Fawr wedi bod yn weladwy. Mae’r adeiladau yn fawreddog ond yn ymarferol. Mae’r cysgodlenni yn lliwgar a deniadol. Mae perchnogion y siopau’n holl bresennol, yn aros i groesawu eu cwsmer nesaf. Does dim llawer wedi newid o ran diben a swyddogaeth; mae’r wynebau wedi esblygu, ond edrychwch yn ofalus gan mai cenhedlaeth wahanol ydyn nhw o bosib.
Mae’r Stryd Fawr yn gymuned a gellir gweld hyn yn ei digwyddiadau sy’n parhau i gael eu cynnal. Dechreuodd Parêd Bonedau’r Pasg dros 30 mlynedd yn ôl ac mae’n uchafbwynt yn y calendr i bawb. Rhubanau wedi’u clymu dan enau a bonedau trymion wedi’i haddurno â chywion melyn ac wyau lliw pastel yn simsanu ar eu pennau. Clymau a lasiau yn gysgod ar wynebau’r plant, yn gwenu ac yn cerdded i fyny ac i lawr y Stryd Fawr. Pobl yn gwylio, yn beirniadu ac yn chwilio am yr olygfa fwyaf ysblennydd.
The Race
We meet at the starting line.
Hearts beating, tension rising,
My arm is outstretched.
The Butcher fires the trigger,
The race begins.
Feet finding rhythm,
And moving along the High Street.
Shop fronts blur-
My pace is quickening.
I spot Mam and Dad,
They wave frantically.
But there’s no time to wave back.
The finish line is in sight.
The competition fades into the background.
The frying pan crosses the line first,
Followed by my hurtling body.
I’m the winner and my pancake is the prize.
Traddodiad arall yw’r ‘Ras Grempog’. Mae gan y grempogen hanes hir ac mae wedi bod mewn llyfrau coginio ers mor bell yn ôl â 1439. Mae’r traddodiad o’i lluchio neu ei throi bron mor hen â hynny. Byddai masnachwyr yn ymgasglu ar gyfer y Ras Grempog, ffreipan yn eu llaw, yn rhoi cynnig mentrus ar droi’r toes melys.
Yn hanesyddol, y Nadolig yw uchafbwynt calendr masnachu’r Stryd Fawr. Mae’n cael ei ddathlu wrth Gynnau Goleuadau’r Nadolig, wedi’i gydlynu a’i ddathlu gan y masnachwyr. Mae hyn wedi newid dros y blynyddoedd, gan ddechrau gyda chanhwyllau a gwrid naturiol y fflamau ar wynebau’n gwenu. Erbyn hyn, mae pobl yn dringo ysgolion, yn rhoi goleuadau tylwyth teg sy’n fflachio a choed Nadolig bach ar bolion lamp.
Mae storïau doniol hefyd sy’n dal yn cael eu cofio fel yr un am Reginald druan!
Poor Reginald!
He was named Reginald.
A 17 year old plumber,
Called out to fix a gas leak,
Lit a candle to find it-
And Boom!
The police from the station,
Came to his aid,
He didn't die,
But blushed,
When people told the story.
Ar 15 Mai 1896, cafodd Ann Davies wŷs gan Gyngor Dosbarth Trefol y Barri am dorri’r is-ddeddfau. Roedd William Morgan wedi ei gweld yn ysgwyd ei matiau o flaen ei thŷ ar ôl 8 yn y bore. Daeth yr achos i ben gyda rhybudd, ac addawodd y diffynnydd i beidio â’i wneud eto.
Neu a glywsoch chi’r stori am “Annie Piddell” (Annie neu Agnes Courtenay) – putain a meddwyn rheolaidd. Cafodd ei galw gerbron y Fainc yn 1905 a’i galw yn “Bla yn y Dref”.
A wyddech chi fod gan wragedd tŷ Fictoraidd obsesiwn â’r syniad y gallai eu bwyd fod wedi’i halogi? Mae’n rhaid bod hyn wedi newid sut yr oedd y Stryd Fawr yn gweithredu yn ddramatig. Mae’n un o’r rhesymau pam y daeth brandiau yn boblogaidd; roedd yr addewid o ansawdd dibynadwy a “phurdeb” oedd yn cael cyhoeddusrwydd mawr, yn werth talu’n ychwanegol amdano.
Mae hanes Fictoraidd ac Edwardaidd y Stryd Fawr yn parhau yn fyw ac mae’n cael ei adrodd gan ‘The Victorian Barry Experience’. Maen nhw’n cynnig teithiau cerdded, sy’n antur drwy amser a lle.
Gwybodaeth
Merched y West End
Drwy gydol hanes, mae menywod arloesol, anturus, â meddwl busnes wedi cael cartref ar y Stryd Fawr. Mae’r stryd wedi rhoi lle i fenywod yn barhaus fel perchnogion siopau, partneriaid busnes ac etifeddion cenedlaethau gwahanol.
“Mae’r Stryd Fawr yma’n barhaol, yr endid sydd bron yn ‘fwy’ na phob un ohonon ni. Mae’r busnesau’n mynd a dod, bydd rhai yn aros yn hirach nag eraill, ond cymysgedd y busnesau hynny a’r bobl sy’n ymwneud â nhw ar unrhyw adeg unigol sy’n ei gwneud y lle arbennig. Mae pob perchennog busnes yn geidwad y Stryd ar y foment honno mewn amser.”
Fay Blakeley, perchennog Homemade Wales.
Mae Fay yn fenyw fodern ar y Stryd Fawr ond mae’n cydnabod y menywod sydd wedi dod o’i blaen hi a’r menywod sy’n parhau i’w hamgylchynu bob dydd. Mae Anne Bryl, perchennog Bryl’s Boutique, wedi bod â siop yn Rhif 7 y Stryd Fawr ers 1988. Tyfodd Anne i fyny ar y stryd, gan fynd i Ysgol Gynradd ac Uwchradd High Street ac mae’n cofio’n annwyl am y gymuned oedd yn codi llaw arni wrth iddi fynd i’r ysgol bob dydd. Gan ddechrau masnachu mewn dillad plant, â chanddi angerdd am ffasiwn, mae gan Anne bellach ’boutique’ i ferched.
Mae’r menywod yn dod â’u holl brofiad i’w siopau ac mae hynny’n dod â’i gryfder ei hun. Yn achos Anne cafodd ei hysbrydoli gan ei merched ifanc i lenwi’r bwlch a dechreuodd fasnachu mewn dillad plant. Tra bod Fay wedi gweld cyfle i gydweithio ag artistiaid lleol, wedi’i hysbrydoli gan ei phrofiad o farchnata a’i hamser yn y diwydiannau creadigol. Fe symudodd Jill Mathews, sy’n cael ei nabod yn annwyl fel Mrs Giggles, o addysg y blynyddoedd cynnar i redeg siop deganau Giggles. Mae Jill yn credu yn ei dull chwareus o fasnachu; “Mae plant wrth eu boddau’n dod i chwarae”, gyda’r siop yn dod yn gymaint mwy. Gellir gweld hwn y tu ôl i holl ddrysau’r Stryd Fawr. Byddwch yn aml yn dod o hyd i rywun i siarad ag ef, i ddal i fyny gydag ef ac i rannu eiliad o ysbryd cymunedol. Yr ysbryd unigryw hwn sydd hefyd yn denu trigolion at y stryd.
Gwybodaeth
Upstairs Downstairs
Fel unrhyw stryd dda, mae’r Stryd Fawr yn cynrychioli’r masnachol a’r domestig, y trigolion a’r masnachwyr, gyda rhai o’i pherchnogion siopau yn croesi’r rhaniad. Mae Cathy Copeland sy’n byw uwchben siop cyfarpar i’r cartref enwog O’Donovan’s, wedi bod yn gysylltiedig â’r Stryd Fawr erioed, ond yn ddiweddar darganfu mai ei thynged oedd byw yma, yn fyw nag yr oedd wedi sylweddoli o’r blaen. Ar ôl byw ar y Stryd Fawr am 7 mlynedd, daeth Cathy o hyd i lythyr a anfonwyd rhwng ei rhieni a oedd yn eu lleoli ar y Stryd Fawr dros 50 o flynyddoedd yn ôl. Drwy ffawd neu gyd-ddigwyddiad, mae’r llythyr yn trafod dechrau eu taith i rentu eiddo uwchben haearnwerthwr. Daw hyn â gwên i wyneb Cathy, a’r teimlad o gerdded yn ôl troed hanes.
Mae hanes y Stryd Fawr yn denu llawer o bobl i fyw a gweithio yno. Mae pobl yn gallu cofio aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymeriadau chwedlonol y Barri sydd wedi byw yno drwy gydol amser. Yn ôl Cathy mae’r stryd yn dwyn i gof atgofion am fod yn ferch fach, yn ymweld â’r siop wnïo, a synnu at y rhubanau gwallt prydferth, patrymau gwisgoedd priodas a deunyddiau rhyfeddol. Mae byw ar y Stryd Fawr yn rhoi lle canolog i chi i bopeth. Rydych chi’n galw i mewn i siopau dim ond i gael sgwrs ac mae egni ac angerdd y masnachwyr yn fuan yn ymledu ‘i fyny’r grisiau’.













