Oes Efydd y Barri

Mae carneddau o’r Oes Efydd a golygfeydd godidog o'r môr yn eich disgwyl ym Mhentir y Brodyr. Taith gerdded fer a hygyrch o draeth euraidd Bae Whitmore, mae'n hawdd gweld pam y dewisodd adeiladwyr Carneddau Pentir y Brodyr y man hudol hwn. Dewch i ddarganfod eu hanes diddorol yma...

Mae llwyth o dystiolaeth hanesyddol yn awgrymu bod Pentir y Brodyr (ac Ynys y Barri yn ei chyfanrwydd) wedi bod yn lle sanctaidd i bererinion a hefyd i gael eich claddu am filoedd o flynyddoedd. Mae ‘Carneddau Pentir y Brodyr’, neu ‘Garneddau Ynys y Barri’, yn gasgliad o o leiaf saith carnedd neu domen gladdu (mwy mae’n debyg), lle mae arteffactau Mesolithig, Neolithig, Oes Haearn ac Oes Efydd wedi’u darganfod.

Mae safle daearyddol Pentir y Brodyr, yn uchel uwchben Môr Hafren, yn ei wneud yn weladwy o bellter mawr, ac yn yr un modd yn lle o olygfeydd ysgubol. Yn naturiol felly, daeth y man hwn yn lle i adeiladu begynau, a fyddai o bosib wedi tywys morwyr drwy’r dyfroedd peryglus am gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd.

Roedd hi’n dipyn o gamp adeiladu carneddau neu fegynau ar y brigiad hwn o graig laswelltog, a oedd wedi’i wahanu o’r tir mawr. Cyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Ynys y Barri yn ynys lanwol go iawn, nes i Ddociau’r Barri gael eu hadeiladu, a’r sarn a ddaliai’r llanw yn ôl.

Buodd gwaith cloddio yma trwy gydol y 1800au, a darganfyddiadau yn cynnwys fflint gweithiedig Mesolithig, offer carreg, o leiaf 4 claddedigaeth amlosgi (un mewn wrn crog), ynghyd â darnau o grochenwaith, cregyn molysgiaid, a dannedd ceffylau. Mae rhai darganfyddiadau wedi’u cofnodi yn yr Archaeologia Cambrensis, sydd ar gael ar-lein drwy’r Gwasanaeth Data Archaeoleg drwy chwilio am “Friar’s Point”. Cofnodir bod dros saith deg o ddarganfyddiadau wedi’u storio yng Nghasgliad Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Mae archeolegwyr heddiw yn adfer safleoedd cloddio yn ofalus, ond nid dyma’r achos ’slawer dydd. Ymdoniadau yw’r pethau y gallwch eu gweld nawr. Yn eu plith mae’r un ger y fainc gyntaf rydych chi’n ei phasio, sydd â phant ymddangosol yn y canol a rhiciau aneglur o amgylch y cylchedd. Mae’r goroeswr amlwg arall ym mhen pellaf y pentir, lle cafodd sail polyn baner, mae’n debyg, ei adeiladu ar gladdedigaeth a oedd eisoes wedi’i chloddio.