David Davies, Teicŵn Cyntaf Cymru
Ganed David Davies, Diwydiannwr Cymreig a'r gwleidydd Rhyddfrydol yn y 19eg Ganrif, ac fe’i adnabyddir heddiw o hyd fel elfen annatod yn nhwf a datblygiad y Barri.
Efallai eich bod wedi gweld ei gerflun yn sefyll yn falch y tu allan i Swyddfa’r Doc, yn dal comisiwn y dociau a ddechreuodd ddiwydiannu’r Barri. Neu efallai eich bod wedi clywed ei enw mewn sgwrs ynglŷn â’r cysylltiad rheilffordd rydym i gyd yn teithio arno, mae gennym lawer i ddiolch iddo amdano.
Roedd twf y diwydiant glo a’r pyllau glo yn ystod y 1880au yn enfawr a chafodd David Davies ei hun ar y rheng flaen yn ei rôl fel gwleidydd a diwydiannwr. Roedd Dociau Bute, Caerdydd yn gweithredu ar ei eithaf, roedd y rheilffordd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â thraffig y diwydiant, ond dyma ble gwelodd Davies gyfle. Cynigiodd gynllun i adeiladu dociau newydd a chysylltu’r Barri gyda rheilffordd, gan adeiladu cysylltiad newydd o’r Rhondda. Cymerodd amser i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo, bron i ddwy flynedd rhwng Tachwedd 1882 ac Awst 1884. Bu proses seneddol hir a drud, yn costio £70,000 (dros £9 miliwn yn ein arian ni heddiwn!). Ond ym 1889 cwblhawyd y project i adeiladu Doc rhif 1.
Bu farw David Davies yn 1890, flwyddyn ar ôl ei gyflawniad mwyaf a ganiataodd i’r diwydiant glo ehangu ymhellach. Ocean Coal Company Ltd. bryd hyn oedd y cwmni glo mwyaf a mwyaf ffyniannus a oedd yn dosbarthu drwy’r byd.
Disgrifiodd Kenneth Morgan, hanesydd a Darlledwr o Gymru, Ddociau’r Barri fel “fuddugoliaeth fwyaf” yng ngyrfa Davies ar gyfer gwlad ei febyd.
Gwybodaeth
Ei etifeddion
Goroeswyd David Davies gan ei fab Edward Davies a barhaodd i weithio gyda’r Ocean Coal Company, a’i ŵyr David Davies (yn y llun), a ddaeth yn Farwn Davies Llandinam.
Roedd David Davies yn ddyngarwr sylweddol, gan roi miliynau lawer, yn ein harian ni heddiw, tuag at achosion lleol a chenedlaethol fel Cofeb Genedlaethol Cymru’r Brenin Edward VII, Teml Heddwch Cymru yng Nghaerdydd, y Neuadd Goffa (Canolfan Celfyddydau’r Memo bellach) yn y Barri, a Neuadd Dinam yn y Barri, i enwi dim ond rhai.
Ni wnaeth y naill na’r llall fyw i gyrraedd henaint; bu farw Edward yn 45 mlwydd oed yn fuan ar ôl chwalfa feddyliol, a bu farw David o ganser yr ysgyfaint yn 64 mlwydd oed.













