Busnes
Lle ar gyfer busnes ac arloesedd, yn gysylltiedig â’r byd.
Mae'r Barri yn lle gwych i weithio. Mae’r dref yn wely brwd o fusnesau bach a chanolfaint uchelgeisiol yn ogystal â chanolfan ar gyfer rhai cwmnïau hir-sefydlog gan gynnwys Aston Martin, Lignia, Goodwash, Dow Silicones UK a Cabot Carbon. Mae parth menter newydd ar garreg ein drws ac rydym yn bwriadu datblygu rhagor o ofod busnes.
Mae’r Barri yn lle gwych i weithio. Mae’r dref yn wely brwd o fusnesau bach a chanolfaint uchelgeisiol yn ogystal â chanolfan ar gyfer rhai cwmnïau hir-sefydlog gan gynnwys Aston Martin, Lignia, Goodwash, Dow Silicones UK a Cabot Carbon. Mae parth menter newydd ar garreg ein drws ac rydym yn bwriadu datblygu rhagor o ofod busnes.
Mae’r hyn a oedd ar un adeg yn un o borthladdoedd diwydiannol mwyaf prysur y byd bellach yn darparu cynfas ar gyfer cyfleoedd datblygu arbennig wrth ochr y cei. Mae’n cynnig cyfle i adeiladu’r amwynderau hamdden sy’n canolbwyntio ar y dŵr, gwestai, caffis, bwytai, tai a mannau busnes a fydd yn cefnogi ffyniant Y Barri ac yn cysylltu’r cyrchfan arfordirol poblogaidd, Ynys Y Barri, â’i thref hanesyddol.
Mae’r dref yn cynnig cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd rhagorol, maes awyr rhyngwladol a phorthladd gweithredol ar garreg y drws. Mae cael cysylltiadau gwych â’r byd yn ased.
Er y sefydlwyd Y Barri ar lo a diwydiant trwm, rydym yn gwybod bod ein dyfodol yn dibynnu ar ymrwymiad i leihau carbon. Dyna pam rydym yn buddsoddi mewn cynlluniau gwresogi ardaloedd a dyna pam mae ffurfiau adnewyddadwy ac amgen ar ynni yn ganolog i’n cynllunio at y dyfodol. Ar hyn o bryd mae gan Y Barri chwe fferm solar, ac mae Associated British Ports yn datblygu un arall yn ardal Dociau’r Barri.

Mae ein hanes o allforio glo, masnach ryngwladol a chymunedau a adeiladwyd ar amrywiaeth wedi llywio’r ysbryd entrepreneuraidd bywiog rydym yn ei weld yn y dref heddiw. Rydym am gefnogi entrepreneuriaid a busnesau i ffynnu yma, gan fwynhau’r cydbwysedd rhagorol rhwng gwaith a bywyd y mae’r Barri yn ei gynnig.
Stori'r Barri
Digwyddiadau i ddod
Mae gan Y Barri rhaglen brysur o ddigwyddiadau blynyddol sy’n amrywio o sinema awyr agored, triathlon, Gwyl Fach y Fro a digwyddiadau a arweinir gan artistiaid.