Tregatwg Canoloesol
Mae Tregatwg yn cymryd ei enw o eglwys Sant Cadog, mae'n bosibl bod yr eglwys gwreiddiol wedi ei sefydlu gan y sant ei hun. Adeiladwyd Llys Tregatwg, a'i Golomendy (yr unig adeilad gwreiddiol sydd dal yn sefyll o'r llys maenorol), yn amser y Magna Carta. Fe'i ddinistrwyd gan ddilynwyr Owain Glyndwr. Mae Tregatwg yn gipolwg diddorol nôl mewn amser...
Cyn datblygiad y dociau, roedd Tregatwg yn dafliad carreg o farc llanw uchel Môr Hafren. Pentref canoloesol oedd, wedi’i amgylchynu gan dir amaethyddol, yn cynnwys llond llaw o ffermydd, pob un yn eiddo fel rhan o diroedd maenorol mwy.
Yn wreiddiol, roedd Tregatwg yn bentre’ mwy a phwysicach na’r Barri. Bryd hynny, dim ond clwstwr o gartrefi amaethyddol teuluol oedd y Barri, ac ynghyd â Thregatwg a Merthyr Dyfan yn ffurfio rhan o ardal fwy a berchenwyd a reolir gan deuluoedd aristocrataidd cyn belled yn ôl â’r goncwest Normanaidd, ac ymhellach.
Mae Eglwys Sant Cadog, neu ‘yr hen eglwys bentre’ fel y’i hadnabyddir heddiw, o adeiladwaith Normanaidd yn ei ffurf bresennol, wedi’i hadeiladu tua 1200OC, ond saif ar dir safle hŷn, y credir ei fod yn dyddio’n ôl cyn belled â 800OC.
Adeiladwyd Llys Tregatwg, yn uchel ar graigwely uwchben rhosydd a thir fferm cyfagos, ar gyfer y llywodraethwyr Arglwyddi Tregatwg, i ddelio â materion perchnogaeth tir lleol a materion sifil lleol. Erbyn hyn, dim ond y Colomendy sydd wedi goroesi o’r faenor ganoloesol hwnnw, a adeiladwyd yn benodol i ddarparu clwydo a nythu i adar, a thrwy hynny ddarparu cyflenwad digonedd o wyau, cig a phlu ar gyfer y llys.
Gwyliwch y ffilm hon i weld taith dywys o amgylch Tregatwg a drefnwyd gan Valeways. Mae taflen cerdded ‘‘Hanes cudd Tregatwg’ hefyd ar gael os hoffech ddilyn y llwybr yma ar liwt eich hun.













