Ynys y Barri – creu cyrchfan
O bererinion yn ymweld â man claddu Sant Barrwg, i ffans sy'n ymweld â lleoliadau ffilmio 'Gavin and Stacey', mae ymwelwyr wedi dod yma ers cannoedd o flynyddoedd. Ond beth wnaeth Ynys y Barri yn gyrchfan glan môr?
Anialwch anghysbell
Erbyn dechrau’r 1700au, roedd diwydiant yn trawsnewid y tir, a gyda’r gred mewn manteision iechyd awyr môr ac ymdrochi, cynyddodd twristiaeth arfordirol. Roedd ardaloedd anghysbell Prydain yn cael eu hystyried yn rhy wyllt ac anghyfleus i ymweld â nhw, yn ogystal ag yn anodd cael mynediad atynt ar gefn ceffyl neu fygi. Roedd tuedd i’r bonheddwyr deithio i’r cyfandir ar gyfer iechyd a phleser. Ond ataliodd y rhyfeloedd gyda Ffrainc y teithio i’r cyfandir am gyfnod a dechreuodd y cyfoethog archwilio ardaloedd anghysbell Prydain yn lle hynny. Erbyn y 1790au, denodd Ynys y Barri (a oedd a bron neb yn byw yno) , ymwelwyr cyfoethog ac aristocrataidd a oedd yn ffafrio’r lleoliad gwyllt a’r traethau tywodlyd.
Roedd llety ar gael yn yr unig ffermdy ar yr ynys, neu mewn ystafelloedd neu fythynnod ym mhentref cyfagos Tregatwg. Erbyn 1840, gwelwyd lletywyr yn Nhregatwg yn hysbysebu mewn papurau newydd rhanbarthol. Bythynnod i’w rhentu gyda ‘golygfeydd ysblennydd dros Fôr Hafren’ ac addewidion o awyr mor bur fel bod pentrefwyr yn byw i ‘oedrannau mawr o dros wyth deg mlynedd’!
Erbyn dechrau’r 1800au roedd gwibdeithiau agerlongau o Fryste yn angori oddi ar Ynys y Barri, lle’r oedd ymbleserwyr dosbarth canol yn cael eu cludo i’r lan mewn cwch rhwyfo.
Dyfodiad y rheilffordd i Ynys y Barri
Yn y 1870au, roedd yr ynys yn denu datblygiad, ac agorodd y Gwesty Marine. Fodd bynnag, am gyfnod, gwaharddodd perchennog yr ynys, yr Arglwydd Windsor, ymwelwyr a datblygwyr. Yn y 1880au, tarodd fargen gyda pherchnogion pyllau glo Rhondda dan arweiniad David Davies, i adeiladu doc allforio glo yn Swnt y Barri, gyda chysylltiadau rheilffordd newydd. Adeiladwyd rheilffordd 19 milltir yn cysylltu Trehafod yn y Rhondda â’r Barri, a thynnodd ffordd newydd ar draws rhostiroedd Tregatwg gwpl o filltiroedd oddi ar y daith o Gaerdydd. Fodd bynnag, roedd hyn yn rhy brysur gyda thraffig adeiladu’r dociau, a neilltuwyd y rheilffordd i ddechrau ar gyfer cludo glo. Y rheilffordd newydd o Cogan ddaeth â theithwyr dydd i’r Barri eto. Ym 1896 estynnwyd y rheilffordd i Orsaf Ynys y Barri. Er na chafodd ei godi’n ffurfiol erioed, anwybyddwyd gwaharddiad yr Arglwydd Windsor erbyn hyn!
Adeiladwyd promenâd hanner ceiniog yn ystod yr oes Edwardaidd. Roedd pwll ymdrochi ym Mhentir y Brodyr ar gyfer menywod a chytiau ymdrochi ychydig uwchben, a chyfleusterau ymdrochi i ddynion y pen arall ym Mhentir Nell yn agos at y cytiau traeth lliwgar sydd i’w gweld heddiw.
Llif cyson o ymwelwyr yn troi’n genllif!
Fodd bynnag, cymerodd gryn amser cyn i Ynys y Barri gael ei datblygu fel y gyrchfan a welwn heddiw. Rhwystrodd yr Arglwydd Windsor ddatblygiad sylweddol, gan wneud consesiynau bach yn unig i wella amwynderau sylfaenol. Ond erbyn y 1910au a’r 1920au roedd datblygiadau mawr yn cynnwys morglawdd a phromenâd trawiadol Bae Whitmore, yn ogystal â’r ffigar-êt rheilffordd golygfaol a osododd sail y ffair hwyl, ‘Wal y Farwolaeth’ ac atyniadau eraill. Mae’r Llochesau Gorllewinol a Dwyreinol clasurol yn dyddio o’r cyfnod hwn ac fe’u hadeiladwyd yn wreiddiol i gynnig cysgod a chyfleusterau newid i ymdrochwyr.
Ffynnodd y cyrchfan, ac erbyn 1934 dywedir bod y ffair wedi denu dros 400,000 o ymwelwyr yn ystod wythnos Gŵyl y Banc mis Awst. Ym 1938, gwelwyd 250,000 o ymwelwyr ar un dydd Llun Gŵyl y Banc sy’n syfrdanol.
Mae’r cerdyn post isod yn dangos sut yr adeiladwyd y Lloches Gorllewinol yn wreiddiol; ychwanegwyd y grisiau sy’n arwain yn syth i lawr i’r traeth yn ddiweddarach.
Butlin
Ac eithrio blynyddoedd y rhyfel, parhaodd y gyrchfan i dyfu. Agorwyd Butlin Ynys y Barri ym 1966 gan gyhoeddi deng mlynedd ar hugain o ymwelwyr hirhoedlog. Roedd gan y gwersyll 800 o gabanau gwyliau, ac roedd yn cynnwys holl weithgareddau arferol Butlin – lifftiau cadair, Bar Pig & Whistle, arcedau o siopau, pwll nofio mawr a chyrtiau tenis. Daeth yn ‘Cyrchfan Ynys y Barri’ ddiwedd y 1980au ar ôl i Butlin werthu’r gwersyll i Majestic Holidays. Caeodd y gwersyll ym 1996.
Am fwy o wybodaeth am hanes Ynys y Barri, gweler:
The unknown history of Barry Island | University of South Wales
Gwybodaeth
Bonanza Gŵyl y Banc!
Yn ystod wythnos Gŵyl y Banc Awst 1934 gwelwyd 1,200 o goetsys a siarabangau, 8,000 o geir modur, 3,000 o feiciau modur a dros 10,000 o feiciau yn talu am barcio neu garej. Daeth trenau a bysiau cyhoeddus â degau o filoedd yn fwy. Ar ddydd Llun Gŵyl y Banc 1938 cafodd ceir, bysiau a beicwyr modur eu dargyfeirio gan yr heddlu i feysydd parcio yn y Cnap, Porthceri, a hyd yn oed Sili a’r Rhws pan oedd yr holl barcio ar yr ynys yn llawn. Erbyn 6yh, roedd llinell barhaus ac araf o draffig yn ymestyn o’r Barri i Groes Cwrlwys ac ni wnaeth glirio tan ymhell ar ôl 3yb ddydd Mawrth.
Fideo
Butlin's
Y si yw y daeth ysbrydoliaeth Billy Butlin ar gyfer gwersyll o aros yn y Barri pan oedd yn ifanc, mewn gwely a brecwast, lle cafodd ei gloi allan o’i ystafell drwy’r dydd gan y lletywraig. Mae pobl leol yn dal i hel atgofion am flynyddoedd Butlin gan ddweud mai nhw oedd blynyddoedd gorau Ynys y Barri. Roedd dyfodiad teithiau awyr rhad a gwyliau pecyn i’r bobl yn ffactor pwysig yn nhranc Butlin yn y pen draw.
Cliciwch i weld ffilm o wyliau teulu yn Butlin ym 1971, o Archif Bruce Stait.













