Swyddfa'r Doc

Mae’r adeilad nodedig hwn i’w weld yn glir yn nenlinell y Barri, yn edrych dros y dociau. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1897 a 1900 yn arddull y Diwygiad Baroc fel Swyddfeydd Cyffredinol Cwmni Dociau a Rheilffordd y Barri, yr oedd ei staff wedi bod yn gweithio mewn cabanau dros dro.

Oeddech chi’n gwybod bod y Swyddfa Doc yn adeilad calendr? Mae hyn yn golygu iddo gael ei ddylunio o amgylch thema’r calendr. Gwyliwch yr animeiddiad isod i ddarganfod mwy.

Ysgrifennwyd yn ‘The Shipping World’ ym 1897,

“On the ground floor will be the offices of the General Manager, Traffic Manager, Assistant Manager, Collector of Clerks, with a fine entrance hall, corridors and massive staircase leading to the upper portion of the building. On the 1st floor will be the quarters of the Resident Engineer and Secretary with their respective staffs, Boardroom, accountants and auditors rooms and drawing office with apartments for inspectors and clerks.”

Roedd yn adeilad arloesol hefyd, gyda lifft â phaneli pren a drych. Yn ôl bob sôn, dim ond Uwch Reolwyr a ganiatawyd i ddefnyddio’r grisiau mawreddog hyd at y 1960au; roedd yn rhaid i’r staff eraill ddefnyddio’r lifft neu risiau ‘cefn’.

Postcard photograph of the Barry Dock Office

A postcard of the Dock Office when it housed the Barry Railway & Docks Company.

Roedd yn adeilad moethus, yn costio £59,000, gyda lleoedd tân marmor, paneli tîc a thŵr cloc trawiadol (£6,000 ychwanegol). Cafodd ei ddylunio gan y pensaer Arthur E. Bell o Gaerdydd a’r Barri, ar thema calendr, a’i adeiladu gan James Allen & Sons o Gaerdydd. James Allen & Sons of Cardiff.

Ym 1941 bomiwyd y dociau ac o ganlyniad chwalodd y ffenestri ar flaen yr adeilad.

Yn 1984 achosodd nam trydanol dân a oedd bron â dinistrio’r to a’r 2il lawr. Ond pan chwalodd fecanwaith y cloc, cafodd ei dal gan y nenfwd Dawney, gan achub yr adeilad. Yn ffodus, llwyddodd gwneuthurwyr gwreiddiol y cloc, William Potts o Leeds, i wneud replica cywir, ar wahân i un newid – mae’r cloc yn electronig erbyn hyn ac nid oes angen ei weindio!

Wrth ymyl y fynedfa ochr mae plac yn coffáu gweithwyr Rheilffordd y Barri a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mwy o fanylion yma.

Gwybodaeth

David Davies gan Alfred Gilbert RA

Roedd Alfred Gilbert yn un o gerflunwyr amlycaf ei ddydd. Comisiynwyd i wneud cerflun o’r Frenhines Fictoria a nifer o gofebion ar gyfer yr uchelwyr. Astudiodd ym Mharis, Rhufain a Fflorens ac roedd hefyd yn gof aur ac arbrofai gyda metalau. Mae ei gerflun o Eros yn Piccadilly Circus, Llundain, yn un o’r cerfluniau cyntaf i gael ei gastio mewn alwminiwm.

Roedd Gilbert yn rhan o fudiad o’r enw New Sculpture – grŵp o gerflunwyr Prydeinig ar ddiwedd y 19eg ganrif a oedd am ddarlunio’r corff dynol yn fwy naturiol, i greu cerfluniau deinamig a bywiog. Edrychwch ar droed Davies yn camu dros ymyl y plinth, fel petai’n cerdded tuag atom, wedi agor cynlluniau’r Dociau. Nid yw Gilbert yn portreadu Davies yn sefyll mewn ystum stiff, hunan-bwysig, ond fel dyn prysur, gweithgar.

Trigolion y Barri wnaeth dalu £1200 (tua £164,000 heddiw) ar ei gyfer.