Y Barri Rufeinig

Roedd Y Cnap yn borthladd Rhufeinig ‘slawer dydd ac wrth y lan mae adfeilion ‘mansio’ (gwesty i deithwyr) Rhufeinig o’r 3ydd ganrif OC, a oedd yn cynnwys 22 o ystafelloedd bach wedi’u gosod o gwmpas iard agored.

Ymosododd yr Ymerodraeth Rufeinig ar Brydain yn y flwyddyn 43 OC. Ar yr adeg honno rhannwyd y bobl a oedd yn byw ym Mhrydain yn nifer o lwythau, teyrnasoedd annibynnol bach i bob pwrpas. Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid gyntaf yn ne ddwyrain Lloegr, gan ymladd llwythau gelyniaethus a gwneud cynghreiriau â rhai cyfeillgar. Roedd y Silwriaid, a oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru, yn gwrthwynebu’r Rhufeiniaid yn ffyrnig ac yn amddiffyn eu tir o 49 OC nes i’r Rhufeiniaid gwblhau eu meddiannaeth erbyn 75 OC.

Roedd blynyddoedd diweddarach y rheolaeth Rufeinig ym Mhrydain braidd yn anhrefnus. Penodwyd Rhufeiniwr o’r enw Carausius yn 287 OC i ddelio ag ysbeilwyr yn y Môr Udd. Yn eironig, byddai ond yn ymosod arnynt ar ôl iddynt gwblhau eu hysbeilio fel y gallai ef ddwyn y bownti drosto’i hun. Yn sgil ei lwyddiannau datganodd Carausius ei hun yn Ymerawdwr ond byrhoedlog oedd ei deyrnasiad a llofruddiwyd ef yn 293 OC gan ei weinidog cyllid, Allectus, a gymerodd reolaeth dros Brydain. Fe’i trechwyd tair blynedd yn ddiweddarach gan Constantius Chlorus, rheolwr taleithiau gogledd-orllewinol yr Ymerodraeth Rufeinig. Roedd yr ychydig ddarnau arian a ganfuwyd ar safle’r Cnap wedi’u dyddio i’r adeg gythryblus hon, gan awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn.

Roedd Bro Morgannwg yn ardal gymedrol lewyrchus ar y pryd. Roedd y Rhufeiniaid yn adeiladwyr ffyrdd nodedig, gan arolygu’r llwybrau symlaf yn ofalus ac adeiladu eu ffyrdd newydd i barhau, yn wahanol i’r traciau daear syml a oedd wedi bodoli hyd hynny. Mae’r A48, y brif ffordd drwy Fro Morgannwg, yn enghraifft wych o ffordd Rufeinig. Roedd yn rhedeg rhwng y caerau yng Nghaerdydd a Chasllwchwr, gan fynd drwy Sain Nicolas, Tresimwn ac yna’r Bont-faen. Mae llawer o ffermydd yn y Fro wedi gwneud eu darganfyddiadau archeolegol eu hunain; darnau arian, gemwaith Rhufeinig, a hyd yn oed arfau a gariwyd gan yr ymosodwyr. Dros y blynyddoedd mae sawl fila Rufeinig hefyd wedi eu darganfod yn yr ardal.

Yn draddodiadol roedd y llwythau Cymreig lleol wedi byw mewn ffermdai coed cylchol. Cyflwynodd y Rhufeiniaid dai cerrig mwy sylweddol ac o ddechrau’r ail ganrif OC dechreuodd y Cymry adeiladu cartref tebyg. Yn aml, darparodd y cartrefi newydd hyn rai amwynderau Rhufeinig gyda’r trigolion cyfoethocach yn byw mewn filâu gyda gwres canolog, ystafelloedd baddon, plastr wal a mosaigau. Ni allai llawer o bobl fforddio moethusrwydd o’r fath, ond o’n darganfyddiadau mae’n edrych fel y daeth y defnydd o arddulliau Rhufeinig o ran crochenwaith a gemwaith yn fwy cyffredin. Gorchuddiwyd eu crochenwaith, a elwid ‘crochenwaith gorchudd coch’, â gorchudd neu ‘slip’ coch sgleiniog ond gallai hefyd fod yn ddu, a byddai wedi cael ei ddefnyddio ar y safle hwn.

Reconstruction of the Roman 'mansio' looking North

Mae’r adeilad ar y safle yma yn dyddio’n ôl i ddiwedd y drydedd ganrif neu ddechrau’r bedwaredd ganrif. O gloddio’r waliau a ddymchwelwyd, mae archeolegwyr yn awgrymu bod gwaith adeiladu ar y safle wedi’i adael cyn iddo gael ei gwblhau.

Roedd hwn yn adeilad drud wedi’i adeiladu gyda waliau calchfaen Lias lleol a tho o deils seramig. Byddai wedi sefyll allan yn y Fro, lle defnyddiwyd llechi tywodfaen yn gyffredin. Gwnaed ochrau’r prif ddrws gyda chyrsiau calchfaen a theils bob yn ail. Yn ystod y cloddio, canfuwyd sglodion calchfaen gwyn cain, gan awgrymu y gallai’r adeilad fod wedi’i addurno â cherrig wedi’u cerfio. Roedd dwy fynedfa, un o’r teras drwy Ystafell Q a’r llall drwy Ystafell G gyferbyn. Arweiniodd y fynedfa i iard wedi’i hamgylchynu gan feranda neu goridor a arweiniodd at gyfres o ystafelloedd.

Floorplan of the Roman 'mansio' with compass

Er nad yw’r waliau wedi goroesi’n ddigon uchel i ddangos ble’r oedd y drysau, gallwn barhau i wahaniaethu rhwng maint yr ystafelloedd. Mae’r ffaith na chafodd yr adeilad ei orffen yn ei gwneud yn anos i’r archeolegwyr ddeall yr hyn y gallai fod wedi cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Nid yw’n ymddangos ei fod wedi bod yn fila gan nad oedd system gwres canolog, a fyddai wedi bod yn arferol yn y cyfnod hynny.

Roedd islawr (O) o dan yr ystafell yng nghornel y de. Unwaith eto mae’n anodd darganfod ar gyfer beth y defnyddiwyd y nodwedd hon. Nid yw’r islawr wedi goroesi ond mae haneswyr yn credu y byddech wedi dod i mewn iddo o’r tu allan i’r adeilad. Darganfuwyd ystafell arall o faint tebyg (V) pan adeiladwyd adain dde-orllewinol yr adeilad modern cyfagos. Efallai fod hyn wedi bod yn rhan o’r un adeilad neu gallai fod wedi bod yn strwythur ar wahân. Roedd tŵr bach yn un posibilrwydd, a fyddai wedi rhoi golygfeydd gwych allan i’r môr.

Un ddamcaniaeth y mae haneswyr wedi’i hawgrymu yw mai’r hyn rydych yn edrych arno yw tŷ llety swyddogol o bosibl i ddefnyddwyr y system bost ymerodrol. Byddai angen i gychod Rhufeinig stopio’n aml i aros am amodau addas wrth deithio ar hyd Môr Hafren gyda’i hamrywiaeth llanw uchel iawn.

Reconstruction of the Roman 'mansio' looking South