Cwestiynau Cyffredin

  • Pam mae y Barri wedi cael yr arian hwn?

    Dewiswyd y Barri gan Lywodraeth y DU fel un o'r 75 lle ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i dderbyn cyllid. Y nod yw cefnogi lleoedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl a rhoi mwy o reolaeth i bobl leol dros benderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymdogaethau.

  • Faint o arian sydd yna?

    Dyfarnwyd hyd at £20 miliwn i'r Barri dros y degawd nesaf drwy Gynllun ar gyfer Cymdogaethau Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn cael ei ddyrannu mewn rhandaliadau dros gyfnod o 10 mlynedd hyd at 2035.

  • Pwy sy'n gyfrifol am y cyllid a'r penderfyniadau?

    Nid yw Cyngor Bro Morgannwg yn penderfynu sut mae’r arian yn cael ei wario. Gall pobl leol helpu i benderfynu sut mae’r arian yn cael ei wario, ac mae Bwrdd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau wedi’i sefydlu i gasglu syniadau a goruchwylio dyraniad y cyllid.

    Bydd y cyllid yn cael ei reoli gan dri grŵp allweddol sy’n gweithio gyda’i gilydd:

    1. Bwrdd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau — grŵp o arweinwyr lleol, preswylwyr, perchnogion busnes a sefydliadau a fydd yn creu’r cynllun ac yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’r Barri.

    2. Cyngor Bro Morgannwg — byddant yn helpu Bwrdd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau i gyflawni’r cynllun.

    3. Y gymuned leol — dyna chi! Bydd eich syniadau a’ch adborth yn helpu i lunio’r prosiectau sydd bwysicaf i’r Barri. Does neb yn gwybod beth sydd ei angen ar y Barri yn well na’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.

    Mae Cyngor Bro Morgannwg yn darparu cymorth gweinyddol i Fwrdd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau a dyma’r corff atebol sy’n gyfrifol am weithredu cynlluniau, diwydrwydd dyladwy y cyllid, cytundebau talu grant ac adrodd ariannol. Nid yw’r cyllid yn mynd i mewn i gyllideb y Cyngor, mae’n cael ei neilltuo yn benodol ar gyfer Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau.

     

  • O ble mae'r arian wedi dod?

    Dewisodd Llywodraeth y DU y Barri fel un o 75 o drefi i dderbyn buddsoddiad Cynllun ar gyfer Cymdogaethau, menter i osod sylfeini'r lleoedd hynny a adawyd fwyaf ar ôl. Daw'r arian yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU ac mae ar wahân i gyllid Llywodraeth Cymru.

  • Pryd mae'r rhaglen yn dechrau?

    Bydd Llywodraeth y DU yn rhyddhau'r rownd gyntaf o gyllid ym mis Ebrill 2026. Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio'r rhaglen a siarad â phobl yn y gymuned.

  • Ai hon yw'r Gronfa Lefelu i Fyny?

    Na. Mae hon yn rhaglen ar wahân i'r Gronfa Lefelu i Fyny. Er bod y Barri wedi derbyn cyllid Lefelu i Fyny hefyd, mae'r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau yn fenter wahanol sy'n rhoi grym yn nwylo pobl leol i adfywio eu hardal leol.

  • Ar beth fydd yr arian yn cael ei wario?

    Bydd Cynllun Adfywio yn cael ei ddatblygu gan Fwrdd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau i arwain sut mae’r arian yn cael ei wario, gyda Chynllun Buddsoddi am y pedair blynedd gyntaf.

    Ni ellir defnyddio’r arian ar gyfer gwasanaethau statudol y dylai Cyngor Bro Morgannwg neu gyrff eraill eu darparu. Ni ellir ei ddefnyddio i newid penderfyniadau a wnaed gan Gyngor Bro Morgannwg.

  • A all fy ngrŵp neu fusnes wneud cais i dderbyn cyllid?

    Unwaith y bydd y Cynllun Adfywio wedi'i gymeradwyo a chyllid yn dechrau yn 2026, efallai y bydd cyfleoedd i grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol wneud cais am gyllid. Ar y cam hwn, mae angen i ni glywed gennych am y blaenoriaethau a'r materion sy'n bwysig i chi.

  • Mae gen i syniad; sut ydw i'n cael ei ariannu?

    Nid oes proses ymgeisio am grant hyd yma, ond gallwch:

    Gadw’n wybodus trwy ddiweddariadau gan Fwrdd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau.

  • Rydw i eisiau ymuno â grŵp gweithredu — sut ydw i'n cymryd rhan?

    Mae Bwrdd Cynllun Cymdogaethau y Barri wedi cytuno ar bum grŵp gweithredu sydd wedi’u sefydlu i ddatblygu syniadau prosiect ar gyfer y Cynllun Adfywio. Mae grwpiau gweithredu yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd.

    Y grwpiau gweithredu yw:

    • Diogelu’r Barri — gwella diogelwch mewn mannau cyhoeddus a lleihau aildroseddu

    • Dyfodol y Barri — i fuddsoddi mewn swyddi, hyfforddiant a sgiliau newydd

    • Y Barri Bywiog — i gefnogi strydoedd mawr ffyniannus a hybiau cymdogaeth

    • Cymunedau Ffyniannus y Barri — gwella gwasanaethau lleol a chefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr

    • Y Barri Gyda’n Gilydd — i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau cyfranogol yn y Barri