Glanhau'r Barri 2026

Mae ymgyrch Glanhau'r ymlaen eto. Mae Cadwch Gymru'n Daclus, Cyngor Tref y Barri, a Chyngor Bro Morgannwg wedi ymuno eleni i gynnal digwyddiadau casglu sbwriel wedi'u trefnu drwy gydol yr haf. Mae nhw'n gwneud defnydd da o'r pecynnau casglu sbwriel a brynwyd y llynedd drwy Gymdogaethau'r Barri!

Helpwch gadw'r Barri yn lân, gwyrdd a hardd yr haf hwn trwy ymuno â digwyddiad casglu sbwriel cymunedol. Mae croeso i bawb — p'un a allwch chi sbario awr neu aros am y sesiwn gyfan, mae pob bag a gesglir yn gwneud gwahaniaeth.

✅ Darperir offer casglu sbwriel
✅ Addas ar gyfer teuluoedd a grwpiau cymunedol

Mae Barri glanach o fudd i bawb. Dewch â'ch ffrindiau, teulu a'ch cymdogion a'n helpu ni i fynd i'r afael â sbwriel ar draws ein tref yr haf hwn. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn, un bag ar y tro.

ARCHEBWCH AR DDIGWYDDIAD CASGLU SBWRIEL yma

Gallwch hefyd drefnu eich digwyddiad casglu sbwriel cymunedol eich hun yr haf hwn neu ar unrhyw adeg. Fel canolbwynt swyddogol casglu sbwriel Cadwch Gymru'n Daclus, gall Cyngor Tref y Barri gyflenwi pecynnau casglu sbwriel, canllawiau a ffurflenni asesu risg. Darganfyddwch fwy yma.