Datganiad i'r wasg diweddaraf
Y Barri i gynnal ei Ŵyl Gelf Stryd gyntaf
Mae Gŵyl Gelf Stryd gyntaf y Barri, a grëwyd mewn cydweithrediad â Paintworx Wales ym Mharc Canolog yn y Barri, yn ddigwyddiad cyffrous sy'n cael ei gynnal ar benwythnos y 22ain -23ain o Awst ym Mharc Canolog yn y Barri. Ariennir y digwyddiad gan Fwrdd Cymdogaethau'r Barri ac mae'n rhan o weledigaeth ehangach y Bwrdd i ddathlu a datblygu digwyddiadau diwylliannol a chefnogi artistiaid a pherfformwyr ar draws y dref.
Bydd yr ŵyl ddeuddydd yn cynnal artistiaid graffiti o bob cwr o Gymru a fydd yn creu gweithiau celf yn y parc. Bydd cyfle hefyd i bawb gymryd rhan a chreu eu gwaith celf eu hunain drwy weithdai ymarferol. Bydd cerddoriaeth gan artistiaid lluosog, a Bwyd Stryd blasus gan werthwyr lleol yn ychwanegu at naws yr ŵyl. Bydd ramp sgrialu dros dro hefyd yn cael ei osod yn y parc ar y Sul.
Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond bydd tâl am weithdai paentio ar gyfer cost cynfasau. Dyma gyfle gwych i weld rhai o'r artistiaid graffiti mwyaf talentog yng Nghymru, gan gynnwys KARM, CESTO, RMER, NEWER a llawer mwy!
“Rydym yn falch iawn o gydweithio â Bwrdd Cymdogaethau'r Barri i ddod â'r ŵyl hon sy'n gynhwysol, bywiog, ac am ddim, a fydd yn dathlu celfyddydau graffiti, cerddoriaeth a chymuned. Rydym am i'r ŵyl fod mor gynhwysol â phosibl, gan sicrhau bod croeso i bawb, a gall pawb gymryd rhan! Rydym yn dod â 25 o artistiaid mwyaf talentog Cymru i'n tref enedigol, y Barri, ac yn gobeithio arddangos beth sydd gan graffiti a chelf stryd i'w gynnig. Rydym wedi gweld pa mor llwyddiannus fu hyn i lawer o drefi eraill, a'n nod yw gwneud y Barri yn brifddinas graffiti a chelf stryd Cymru!” Kyle & Ceri, Hurts so good
Dywedodd David Stevens, Cadeirydd Bwrdd Cymdogaethau'r Barri, “rydym yn gyffrous i gefnogi Gŵyl Gelf Stryd y Barri ac yn gobeithio y bydd trigolion yn cymryd rhan ac yn cael penwythnos gwych. Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i helpu i ddatblygu'r cynnig diwylliannol o fewn y dref ac yn falch iawn o fod yn rhan o'r hyn sy'n addo bod yn ddigwyddiad hwyliog.”
Hwn fydd yr ail brosiect diwylliannol a gefnogir gan Fwrdd Cymdogaethau'r Barri, a'r cyntaf oedd Parod am Gig y Barri, a gynhaliwyd ar ddechrau'r flwyddyn ac a roddodd fynediad amhrisiadwy i gerddorion ifanc y Barri i stiwdio recordio proffesiynol a llwyfan i berfformio i gynulleidfa fyw.
Mae Paintworx Wales yn ŵyl gelf graffiti newydd a grëwyd gan Hurts So Good. Maent wedi cael eu hariannu eleni drwy raglen Cymdogaethau'r Barri i ddod ag artistiaid graffiti o bob cwr o Gymru i'r Barri mewn digwyddiad deuddydd cyffrous.
Bwrdd Cymdogaethau'r Barri yw'r corff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer rhaglen Cymdogaethau'r Barri, a ariennir gan Raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU. Mae Cymdogaethau'r Barri yn bartneriaeth rhwng y Bwrdd, Cyngor Bro Morgannwg a'r gymuned leol.
Mae Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU (Cynllun ar gyfer Cymdogaethau gynt) yn rhaglen gwerth £5.8 biliwn a fydd yn buddsoddi mewn 284 o gymunedau dros ddegawd.