Datganiad i'r wasg 21ain o Awst
Galw ar drigolion y Barri i helpu i lunio buddsoddiad £2 filiwn y flwyddyn Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’r Barri
Dewiswyd y Barri yn un o bum tref yng Nghymru i dderbyn buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU, drwy ei menter Cynllun ar gyfer Cymdogaethau. Dros y 10 mlynedd nesaf, bydd y Barri yn derbyn £2 filiwn bob blwyddyn trwy’r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’r Barri, dan arweiniad grŵp deinamig o drigolion a phobl fusnes leol, a gweision cyhoeddus, sy’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth hirdymor, cadarnhaol i’r dref.
A nawr, mae’r alwad wedi mynd allan i bobl leol yn gofyn am syniadau i helpu i lunio’r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’r Barri. Mae angen gwirfoddolwyr i ffurfio pum grŵp gweithredu a fydd yn cynhyrchu syniadau creadigol ac ymarferol ar gyfer y materion sydd bwysicaf i bobl: gwella diogelwch y cyhoedd, cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc, helpu busnesau lleol i ffynnu, cefnogi gwell iechyd a lles, a dod â chymunedau ynghyd.
Bydd y grwpiau gweithredu’n cael eu harwain gan rai o wynebau cyfarwydd y Barri, gan gynnwys Matt Blumberg, sylfaenydd GlastonBARRY, y Pennaeth Gweithredol Innes Robinson, y perchennog busnes bach Fay Blakeley, y Prif Uwcharolygydd Marc Attwell a’r Swyddog Datblygu Cymunedol Sarah Cutting, sy’n gweithio’n agos gyda chymunedau drwy’r prosiect Eich Lle.
Mae’r broses gyfan yn cael ei chydlynu gan Fwrdd Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’r Barri, dan gadeiryddiaeth David Stevens, preswylydd lleol a chyn Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Admiral. Dywedodd David,
“Rwy'n hyderus y gallwn fanteisio ar egni a dychymyg cyfunol pobl y Barri i feddwl am syniadau gwych ar sut i wario cyllideb £2 filiwn y flwyddyn Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’r Barri.
“Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw’r cyfle, diolch i ymrwymiad 10 mlynedd y llywodraeth, i wario’r arian mewn ffyrdd sy’n gwneud gwelliannau hirdymor, parhaus i ddyfodol pobl y Barri.”.”
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn darparu cymorth gweinyddol i Fwrdd Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’r Barri a dyma’r corff atebol sy’n gyfrifol am weithredu cynlluniau, diwydrwydd dyladwy y cyllid, cytundebau taliadau grant ac adrodd ariannol.
I wneud cais i ymuno â grŵp gweithredu Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’r Barri, neu am fwy o wybodaeth, ewch i www.barry.cymru neu e-bostiwch [email protected]. Dylid cyflwyno ceisiadau i ymuno â’r grwpiau gweithredu erbyn hanner dydd ddydd Gwener 12 Medi, ac mae croeso i sylwadau a syniadau gan unigolion, busnesau neu sefydliadau yn y Barri ar unrhyw adeg.