Cylchlythyr #1
Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau: Cynllun Adfywio 10 Mlynedd y Barri ar gyfer Dyfodol Disgleiriach
Ariennir rhaglen Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau gan Lywodraeth y DU, gyda buddsoddiad arfaethedig o hyd at £2 filiwn y flwyddyn dros 10 mlynedd.
Croeso
Mawrth 2026
Mae'r Barri yn dechrau rhaglen gyffrous o fuddsoddi dros 10 mlynedd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol, gwella ansawdd bywyd, a llunio dyfodol disglair i'r dref. Dan arweiniad Bwrdd Cymdogaethau'r Barri a phum grŵp gweithredu dan arweiniad preswylwyr, mae gwirfoddolwyr o bob cwr o'r gymuned eisoes yn archwilio syniadau i wella mannau cyhoeddus, strydoedd mawr, bywyd cymunedol, cyfleoedd ieuenctid, hyfforddiant a lles. Bydd y cylchlythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am gynnydd, yn tynnu sylw at brosiectau, ac yn rhannu ffyrdd o gymryd rhan wrth i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu ar gryfderau'r Barri a sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn darparu manteision gwirioneddol, parhaol i bawb.
Mae'n wych gallu siarad am brosiectau pendant sy'n cael eu hariannu gan Gynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau, ond mae llawer mwy i ddod. Mae ein grwpiau gweithredu lleol dan arweiniad gwirfoddolwyr wedi gweithio'n galed i hyrwyddo naw prosiect arall i fwrdd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau eu hasesu, a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn digwydd ac yn cael effaith gynyddol gadarnhaol ar fywydau trigolion y Barri. David Stevens, Cadeirydd Bwrdd Cymdogaethau‘r Barri
Cyflwynwyd Cynllun Adfywio i Lywodraeth y DU
Rydym ar gam cynnar y daith hon, ar ôl cyflwyno Cynllun Adfywio'r Barri i Lywodraeth y DU ddiwedd mis Tachwedd. Mae'r cynllun yn dwyn ynghyd y blaenoriaethau rydyn ni wedi'u casglu gan drigolion dros y 18 mis diwethaf, yn ogystal â'r data sydd ar gael am yr heriau sy'n wynebu trigolion a busnesau yn y Barri.
Tra bod y cynllun yn cael ei ystyried, rydym hefyd wedi bod yn paratoi ar gyfer sut y bydd y broses o wneud penderfyniadau a'r bartneriaeth â Llywodraeth y DU yn gweithio'n ymarferol. Ar yr un pryd, rydym wedi dechrau profi nifer fach o syniadau cynnar a gyflwynwyd gan y grwpiau gweithredu, gan ein helpu i adeiladu momentwm a dysgu beth sy'n gweithio cyn y prif fuddsoddiad a ddisgwylir ym mis Ebrill 2026.
Prosiectau
• Wrth i ni gychwyn ar y gwaith o weithredu Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau, rydym wedi dechrau gyda thri phrosiect cynnar sy'n cyflawni un neu fwy o'n hamcanion craidd:
- Mae pobl yn teimlo’n fwy diogel yn y Barri
- Mae gan bobl lefydd bywiog i siopa, gweithio a mwynhau
- Mae pobl yn weithgar yn eu cymuned, ac yn falch ohoni
- Mae pobl ifanc yn gallu cyflawni eu potensial
- Mae gan bobl fynediad at swyddi da
Menter Glanhau’r Barri!
Cynhaliwyd y fenter Glanhau’r Barri (Big Barry Clean) rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2025, gan ymateb yn uniongyrchol i bryderon trigolion am sbwriel a thipio anghyfreithlon. Gyda £11,000 o gyllid, a chyd-weithio â Chyngor Tref y Barri a Cadwch Gymru'n Daclus, lansiwyd ymgyrch ledled y dref, gan ddarparu 200 o becynnau casglu sbwriel i oedolion a 184 i blant, ynghyd â chydwyr ychwanegol, i ysgolion, clybiau chwaraeon a lleoliadau cymunedol.
Roedd ymateb y gymuned yn wych. Cymerodd 296 o wirfoddolwyr ran dros yr haf, gan gasglu 160 bag o sbwriel a 5 bag o ailgylchu, gydag ysgolion lleol yn cyfrannu 22 bag arall o sbwriel a 6 bag o ailgylchu hyd at fis Mawrth 2026. Roedd y casgliadau sbwriel yn cynnwys ystod eang o grwpiau o wasanaethau ieuenctid, clybiau chwaraeon a'r Rotary, i 16 o ysgolion lleol.
Ni ddaeth effaith y prosiect i ben ym mis Medi. Mae 16 o ysgolion, 13 lleoliad cymunedol ac ambell unigolyn ymroddedig bellach wedi'u cyfarparu â phecynnau casglu sbwriel, gan helpu i gadw'r Barri'n lanach drwy gydol y flwyddyn. Ers hynny, mae llawer o ysgolion wedi dod yn Barthau Di-Sbwriel, gan ymgorffori dysgu amgylcheddol ymarferol yn eu cwricwlwm a chryfhau balchder yn ein mannau a rennir. Er bod yr ymgyrch drefnedig wedi dod i ben, mae'r momentwm yn parhau. Gall trigolion ymuno neu ffurfio grwpiau casglu sbwriel lleol a benthyg citiau drwy Gyngor Tref y Barri neu Ganolfan Hamdden y Barri. Byddwn yn cydlynu rhaglen newydd o ymgyrchoedd casglu sbwriel yn ystod yr haf, a bydd mwy o wybodaeth yn dilyn yn y cylchlythyrau sydd i ddod.
Parod am Gig Y Barri
Mae prosiect Barod i’r Gig Y Barri (Gig Ready) yn fenter newydd gyffrous sy'n cefnogi cerddorion ifanc yn y Barri drwy gynnig hyfforddiant ymarferol yn y diwydiant, cyngor arbenigol a chyfleoedd i berfformio. Wedi'i lansio yn Neuadd y Seiri Rhyddion ar 11 Ionawr, arddangosodd y prosiect wyth act ifanc yn amrywio o theatr gerdd a Motown i ‘thrash metal’ a phop. Mwynhaodd tua 100 o fynychwyr, gan gynnwys hyrwyddwyr lleol, y digwyddiad, gan roi sylw a chyfleoedd rhwydweithio i’r rhai a gymerodd ran. Rhoddodd panel proffesiynol o faes cerddoriaeth adborth manwl, a ffilmiodd tîm cyfathrebu Cyngor Bro Morgannwg y noson fel rhan o raglen ddogfen barhaus yn dilyn siwrne y perfformwyr ifanc.
Yn dilyn y sioe, cychwynnodd y cyfranogwyr ar raglen strwythuredig o weithdai a gynlluniwyd i feithrin sgiliau creadigol a phroffesiynol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Mae'r sesiynau'n cynnwys gweithdy Sgiliau Busnes a Diwydiant yn ymdrin â hyrwyddo, brandio, llwyfannau ffrydio ac ymarferoldeb trin cerddoriaeth fel busnes. Dilynwyd hyn gan weithdy Sain Fyw a Pherfformio a oedd yn cynnig hyfforddiant technegol mewn systemau PA, meicroffonau, cymysgu a thechnegau perfformio. Trwy gydol mis Ebrill, bydd pob act yn ffilmio fideo hyrwyddo a thrac demo wedi'u cynhyrchu'n broffesiynol, gan ddarparu deunyddiau o ansawdd uchel i gefnogi ceisiadau am gigs yn y dyfodol a phresenoldeb ar-lein.
Mae'r prosiect wedi cael ei hyrwyddo gan Mack Events, Bro Radio a llwyfannau cymunedol lleol a bydd yn arwain at arddangosfa ar Ynys y Barri ar 2 Mai. Mae prosiect ‘Gig Ready’ y Barri eisoes yn dangos y potensial ar gyfer cynnig hyfforddiant tymor hwy yn y diwydiannau creadigol yn y Barri wrth roi'r hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd eu hangen ar berfformwyr ifanc i wireddu eu huchelgeisiau cerddorol.
Bore Coffi Niwroamrywiaeth
Y trydydd prosiect cynnar yw cyfres o Foreau Coffi Niwroamrywiaeth i gefnogi rhieni â phlant niwroamrywiol. Byddwn yn adrodd yn ôl ar y prosiect hwn yn y cylchlythyr nesaf.