Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth Paintworx

Yn y cyfnod cyn Gŵyl Celf Stryd a Graffiti PAINTWORX a gynhaliwyd ym Mharc Canolog ym mis Awst, aeth trefnwyr y digwyddiad Hurts So Good allan i Ysgolion Cynradd Parc Jenner, Heol Holltwn ac Oakfield yn y Barri fel rhan o Raglen Bwyd a Hwyl yr haf, gan ledaenu'r gair am yr ŵyl ac annog pobl ifanc i fod yn greadigol a chymryd rhan yn y gystadleuaeth gelf Paintworx!

Cafwyd rhai ceisiadau anhygoel - da iawn i bawb a gymerodd ran - ac ar ôl llawer o drafod, mae Hurts So Good wedi dethol 6 enillydd gwych:

Dylan Griffith

Zachary Davies

Aiden Nichol

Rosemary Lawrence

Connor Nichol

Un anhysbys (os oes unrhyw un yn gwybod pwy yw hwn, rhowch wybod i ni yn uniongyrchol)

Paintworx Graffiti Competition Winner: Dylan Griffith

Paintworx Graffiti Competition Winner: Zachery Davies

Paintworx Graffiti Competition Winner: Aiden Nichol

Paintworx Graffiti Competition Winner: Rosemary Lawrence

Paintworx Graffiti Competition Winner: Connor Nichol

Paintworx Graffiti Competition Winner: Artist Unknown

Bydd pob un o'r enillwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy graffiti UNIGRYW yn stiwdio Hurts So Good, YNGHYD â bag o nwyddau HSG!

Bydd Hurts So Good yn cysylltu â rhieni/gwarcheidwaid yn unigol i drefnu dyddiad ac amser ar gyfer eu gweithdy cyn bo hir.

Diolch yn fawr i'r ysgolion, y Rhaglen Bwyd a Hwyl ac, yn bwysicaf oll, yr holl artistiaid ifanc a gymerodd ran!