Datganiad i'r wasg diweddaraf
Mae dros 100 o drigolion y Barri wedi ymgeisio i lunio Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau gwerth £2 filiwn y flwyddyn.
Mae Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau wedi derbyn ymateb llethol gan drigolion, gyda dros 100 o geisiadau wedi’u cyflwyno gyda’r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol, hirdymor i’r dref.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ffurfio pum grŵp gweithredu a fydd yn cynhyrchu syniadau prosiect creadigol ac ymarferol i fynd i’r afael â’r materion sy’n bwysicaf i bobl yn y Barri: gwella diogelwch y cyhoedd, cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc, helpu busnesau lleol i ffynnu, cefnogi mentrau dan arweiniad y gymuned, a dod â chymunedau at ei gilydd.
Mae’r Barri yn un o bum tref yng Nghymru a ddewiswyd i dderbyn buddsoddiad mawr o £2 filiwn bob blwyddyn am 10 mlynedd gan Lywodraeth y DU, drwy ei menter Cynllun ar gyfer Cymdogaethau.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cynllun Cymdogaethau’r Barri, preswylydd lleol a chyn-Brif Swyddog Gweithredol Admiral Group David Stevens,
“Mae’n wych cael cymaint o wirfoddolwyr ar fwrdd ein helpu ni i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer lles hirdymor y dref.”
Er bod y rownd hon o recriwtio ar gyfer aelodau’r grwpiau gweithredu wedi cau, croesewir ceisiadau i ymuno â grŵp gweithredu yn y dyfodol. Bydd gan aelod delfrydol o’r grŵp brofiad personol a dealltwriaeth o’r materion y mae’r grŵp gweithredu yn canolbwyntio arnynt, naill ai drwy ei fywyd personol neu drwy waith.
Croesewir sylwadau a syniadau gan unigolion, busnesau neu sefydliadau yn y Barri ar unrhyw adeg.