Cyflwynwyd y cynllun adfywio

Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig i'r Barri gyda chwblhau cynllun adfywio a luniwyd gan bobl leol a fydd yn datgloi buddsoddiad ar gyfer y dref dros y degawd nesaf.

Dros y 18 mis diwethaf mae barn trigolion am eu tref a’r hyn y gellid ei wella wedi cael ei chasglu, ac ynghyd â chanlyniadau arolygon cyhoeddus a data a ddarparwyd i ni gan Lywodraeth y DU wedi helpu i ddatblygu’r Cynllun ar gyfer y Barri. Mae’r Cynllun Adfywio bellach wedi’i gyflwyno i Lywodraeth y DU, gan addo dyfodol gwell i’r Barri.

Dan arweiniad grŵp deinamig o drigolion, perchnogion busnes, a gweision cyhoeddus, gyda mewnbwn gan gannoedd o bobl leol, bydd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau yn blaenoriaethu canol tref bywiog, diogelwch yn y Barri, yn mynd i’r afael â’r rhaniad rhwng y dwyrain a’r gorllewin, yn blaenoriaethu pobl ifanc, ac yn canolbwyntio adnoddau ar ardaloedd sydd â’r angen mwyaf. Bydd Bwrdd Cynllun Cymdogaethau y Barri yn ceisio gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gyflawni gwelliannau a buddsoddi mewn prosiectau a fydd yn sicrhau gwell canlyniadau iechyd a chyflogaeth i drigolion yn ogystal â gwneud y Barri yn lle gwell fyth i fyw a gweithio ynddo.

Mae’r £20 miliwn ar gyfer Cynllun Cymdogaethau y Barri yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth hirdymor, cadarnhaol i’r dref, a bydd y Cynllun Adfywio nawr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU, tra bod paratoadau lleol ar y gweill i ddechrau gwario’r arian sydd i’w ryddhau i’r dref fis Ebrill nesaf. Cyngor Bro Morgannwg sy’n cynnal y Bwrdd a’i gyllid.

Dywedodd Cadeirydd Cynllun y Barri ar gyfer Cymdogaethau, David Stevens, preswylydd lleol a chyn Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Admiral,

“Fe wnaethom gyhoeddi galwad ym mis Awst i wirfoddolwyr ymuno â grwpiau gweithredu thematig i wneud gwahaniaeth hirdymor, cadarnhaol i’r dref, ac ni chafodd pobl y Barri eu siomi.

“Mae’r Cynllun Adfywio yn adlewyrchu’r syniadau creadigol ac ymarferol a gododd o’r grwpiau ac yn adlewyrchu eu profiad eu hunain o fywyd yn y Barri.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Lis Burnett,

“Mae hwn yn gynllun a ddatblygwyd gan bobl y Barri, ar gyfer pobl y Barri. Trwy’r bartneriaeth hon, mae gennym bellach ddealltwriaeth gryfach fyth o’r hyn sydd bwysicaf i’r gymuned a’r newidiadau y maent am eu gweld.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda thrigolion, busnesau a’n partneriaid i droi’r blaenoriaethau cyffredin hyn yn welliannau gwirioneddol ar gyfer heddiw, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Kanishka Narayan AS,

“Bydd dyfodol y Barri yn cael ei adeiladu gan y bobl sy’n ei adnabod orau. Mae’r cynllun hwn yn adlewyrchu eu gobeithion am ganol tref cryfach, strydoedd mwy diogel, cyfleoedd gwell i bobl ifanc a buddsoddiad lle mae ei angen fwyaf. Rwy’n gyffrous am y gwaith sydd o’n blaenau wrth i gyllid ddechrau cyrraedd y Barri yn 2026.”