FfotoBARRIthon 2022

Cynhaliwyd y FfotoBARRIthon cyntaf yn y Barri ar 10 Hydref 2020. Yn 2022 cynhaliwyd yr ail, fel rhan o Haf o Hwyl, y tro hwn fel gweithgaredd estynedig dros sawl diwrnod. Lansiwyd gyda digwyddiad 6 awr, yn eich herio i dynnu 6 llun ar gyfer 6 phwnc. Yna ar y pump diwrnod olynol cynhaliwyd ‘mini-ffotothon’ mewn lleoliadau penodol yn y Barri, gyda 4 pwnc ar gyfr 4 llun dros 2 awr yn unig.

Taniwch eich creadigrwydd, archwiliwch y Barri, cwrdd â phobl sydd â'r un diddordeb a herio'ch sgiliau ffotograffiaeth.

Beth ydy ffotomarathon?

Mae’n brawf o greadigrwydd, sgiliau ffotograffiaeth, dygnwch, a synnwyr digrifwch! Mae’n ddigwyddiad cystadleuol gyda gwobrau, ac mae’n digwydd dros gyfnod penodol o amser. Fformat FfotoBARRIthon ydy 6 phwnc, 6 llun, 6 awr (neu 4 phwnc, 4 llun, 2 awr).

Mae llawer o reolau i’r gêm, ond yn hanfodol rhaid i chi gael un llun fesul pwnc a rhaid iddynt fod yn nhrefn y pynciau ar eich ffôn neu’ch camera, heb unrhyw luniau ychwanegol.

Fformat y brif digwyddiad oedd 6 pwnc, 6 llun, 6 awr.

O ddydd Llun i ddydd Gwener y fformat oedd 4 pwnc, 4 llun, 2 awr. Ar gyfer y digwyddiadau byr, roedd ffocws mewn ardaloedd arbennig yn y Barri:

8fed Dydd Llun: Ynys y Barri

9fed Dydd Mawrth: Canol y Dref/Parc Canolog

10fed Dydd Mercher: Goodsheds/ y Glannau

11eg Dydd Iau: Parc Fictoria/ Tregatwg

12eg : Parc Gwledig Porthceri

Dyma rai o’r lluniau a dynnwyd:

  • Rhedeg
  • Rhywbeth hen, rhywbeth newydd
  • Haf o hwyl
  • Haf o hwyl
  • Dyddiau diog
  • Dyddiau diog
  • Dyddiau diog
  • Glas
  • Glas
  • Lliwiau candi
  • Lliwiau candi
  • Lliwiau candi
  • Lliwiau candi
  • Melysion
  • Melysion
  • Y llanw
  • Fy hoff siop
  • Pethe da
  • Melyn
  • Melyn
  • Patrwm
  • Gwyrdd
  • Gwyrdd
  • Bitw
  • Bitw
  • Cerdded
  • Cerdded
  • Amrywiaeth

PhotoBarrython entry for 'Blue'

Rheolau FfotoBARRIthon

12 gair gall er mwyn goroesi (a llwyddo) yn y FfotoBARRIthon

  1. Darllenwch y rheolau a’r holl wybodaeth am y digwyddiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr amserlen, y gofynion ffotograffiaeth, y lleoliadau, y casglu pynciau, y dyddiad cau terfynol ac ati.
  2. Os ydych chi’n defnyddio camera digidol dechreuwch gyda cherdyn cof gwag a batri wedi’i wefru. Cariwch un sbâr o’r ddau. Bydd batri a gwefrwr dros ben yn eich cadw yn y gêm. Mae cerdyn cof dros ben yn golygu y gallwch greu lluniau eraill wrth i chi fynd (os oes gennych ddigon o egni).
  3. Os ydych chi’n defnyddio ffôn clyfar, gwefrwch ef dros nos a dewch â’ch gwefrwr.
  4. Bydd defnyddio eich ffôn clyfar yn y modd awyren yn diogelu oes eich batri ac yn cadw eich sylw ar eich ffotogread.
  5. Gwisgwch ddillad priodol. Esgidiau cyfforddus, trowsus a aiff yn fudr, a phaciwch ddillad ar gyfer newid tywydd posibl.
  6. Ymunwch â’r digwyddiad gyda ffrind. Bydd y camera gan un ohonoch, a bydd y ddau ohonoch yn rhannu syniadau. Mae dau ben yn well nag un. Cewch hefyd dreulio amser gyda’r person hwnnw a dod i wybod sut mae’n meddwl.
  7. Pwyll piau hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys seibiannau a lluniaeth; mae’n ddigwyddiad sy’n profi dygnwch.
  8. Yn aml, rydych yn fwy creadigol yn ystod yr hanner cyntaf, ond yn fwy pendant eich penderfyniad yn yr ail hanner. Mae’r cyffro ar y dechrau yn creu mwy o syniadau a lluniau. Mae blinder yn eich gwneud yn fwy pendant. Ceisiwch fod yn bendant yn yr hanner cyntaf ac yna byddwch yn fwy creadigol yn yr ail hanner.
  9. Penderfynwch ar bob llun terfynol ar gyfer pob pwnc wrth i chi fynd. Peidiwch â gadael hynny tan y diwedd, byddwch wedi blino. Gwnewch bob pwnc yn ei dro. Cwblhewch a dewis un llun yn unig ar gyfer y pwnc ac yna symud ymlaen. Bydd hyn yn rhoi eglurder creadigol.
  10. Trafodwch ac edrychwch ar y lluniau pwnc gyda’ch gilydd, ond penderfynwch yn eich pâr pwy sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar ddewis llun (y ffotograffydd fel arfer).
  11. Defnyddiwch wybodaeth arbenigol. Mae’n ddefnyddiol os ydy un ohonoch yn adnabod y Barri. Os nad ydych chi’n adnabod y dref, siaradwch â phobl leol. Gofynnwch am gyngor. Fodd bynnag, peidiwch â gadael i’ch gwybodaeth am y Barri eich cyfyngu rhag gweld beth sydd o’ch blaen.
  12. Ystyriwch ddewis thema gyffredinol syml i gysylltu’r lluniau. Gallech ddefnyddio prop i wneud hyn (e.e. ffigwr Lego bach sy’n ymddangos ym mhob llun). Gallech ddewis thema, fel lliw neu dechneg – coch neu bwynt isel/uchel.

Mae’n bosib cymryd rhan yn gyfan gwbl ar droed. Mae gan y Barri wahanol ardaloedd i’w harchwilio ond gallwch gerdded o un lle i’r llall, e.e. mae Ynys y Barri tua 15 munud ar droed o ben gorllewinol y dref. Os ydych yn defnyddio car, ymgyfarwyddwch â’r rhwydwaith ffyrdd o amgylch y Barri, neu os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, edrychwch ar yr amserlenni bysus a threnau. Mae 4 gorsaf drenau yn y Barri: Cadoxton, Dociau’r Barri, y Barri, ac Ynys y Barri.

Archebwch eich tocynnau rhad ac am ddim yma.