Gerddi Gladstone
Adeiladwyd Gerddi Gladstone yn wreiddiol ym 1932. Ymddengys fod hyn wedi cyd-daro ag adeiladu'r Neuadd Goffa a'r Senotaff ar ochr arall Heol Gladstone. Heddiw mae'r Gerddi Isaf yn cynnig lle tawel a hardd i ymlacio wedi'i amgylchynu gan goed aeddfed a phlannu persawrus. Mae'r Gerddi Uchaf yn cynnwys ardal chwarae, campfa awyr agored, cyrtiau tenis a digon o le i redeg o gwmpas!
Hanes
Cafodd yr Ardd Isaf ei gosod allan yn wreiddiol fel cyrtiau tennis. Ar naill ben y cyrtiau tenis roedd balconïau gwylio ychwanegol yn edrych dros y cyrtiau. Roedd un o’r rhain yng nghornel ogleddol y parc, ar hyd Heol Buttrills, lle mae grisiau bas erbyn hyn ac ardal eistedd gysgodol. O amgylch perimedr y parc roedd cynllun plannu o lwyni a blodau wedi’u dewis ar gyfer eu arogl cryf er mwyn iddynt gael eu gwerthfawrogi gan y deillion ac roedd y rheiliau llaw o amgylch y parc yn cynnwys labeli mewn braille. Am y rheswm hwn, daeth y parc yn adnabyddus fel ‘parc y deillion’.
Roedd y balconi sy’n edrych dros y parc heddiw yn cynnwys man eistedd agored, cysgodol yn wreiddiol. Yn y pen draw, cafodd hyn ei fricio ac mae bellach yn cynnwys murlun blodau lliwgar.
Mae trigolion hŷn y Barri yn dal i gofio’r cyrtiau tenis ond ar ryw adeg, o bosibl yn nechrau neu ganol y 1960au, caewyd y cyrtiau. Cafodd y cyrtiau tenis eu tynnu a’u disodli gan blannu a lawntiau. (Gosodwyd cyrtiau tenis newydd yn y Gerddi Uchaf.)
Mae gwaith adnewyddu diweddaraf yr ardd yn talu gwrogaeth i ‘barc y deillion’ gan ei fod yn cynnwys llawer o blanhigion synhwyraidd.
Borderi
Mae llawer o flodau sy’n denu gwenyn a phili pala yn tyfu yn y borderi, megis Echinacea Purpura, mynawyd y bugail, Verbena Bonariensis, mefus gwyllt a chwmin Siapan. Mae yna hefyd lwyni gydag aeron fel y cyrens gwyn, coch, a du i fwydo’r adar. Cadwch lygad allan am blanhigion persawrus cryf fel mintys cath, rhosmari, lafant, saets rwsiaidd a chyffredin, oregano, ffug oren ‘Manteau d’Hermine’, pren lelog, ac wrth gwrs rhosod! Os ydych chi’n arogli cyri wrth i chi basio’r borderi, nid rhywun sy’n coginio gerllaw ond y planhigyn cyri helichrysum italicum!
Yn y gaeaf, mae llwyni a phlanhigion bytholwyrdd yn creu diddordeb a strwythur i’r border, fel clustiau eliffant, phormium gwyn a choch ‘Brenhines Maori’, brachyglottis ‘haul’, Santolina Rosmarinifolia aromatig, dail ‘Aztec Pearl’ Mecsicanaidd sawrus neu ‘geirch euraidd’ gweirfawr lled-fytholwyrdd. Efallai bod ‘tân canol gaeaf’ y chwyrwiail yn gollddail, ond mae’r coesynnau’n dipyn o sioe eu hunain yn y gaeaf, gan wyntyllu mewn arlliwiau tanllyd o goch, oren a melyn!
Dôl blodau gwyllt
Yn yr haf mae’r ddôl yn llawn lliw – blodau ŷd glas, pabïau coch, blodyn taranau, melyn Mair, sêr flodau Mecsico gwyn a phinc a llawer mwy! Mae hon yn wledd ar gyfer y gwenyn, cadwch lygad allan am sawl math o yn casglu paill yma!
Coed aeddfed
Mae rhai sbesimenau gwych o goed aeddfed yn yr ardd, gan gynnwys y cochwydden fawr, conwydd, pinwydd a chypreswydden a blannwyd ym 1932. Mae ychwanegiadau diweddar yn cynnwys coed ceirios a’r fasarn.
Bywyd pwll
Yn gynnar yn y gwanwyn, edrychwch am sympiau o rifft llyffantod, neu linellau o rifft brogaod, yn aml mewn dŵr dyfnach. Mae madfallod dŵr hefyd yn debygol o fyw’n pwll, a welir orau ychydig ar ôl y cyfnos yn gynnar yn yr haf trwy oleuo ymylon y pwll â thortsh. Os yw’r blychau ystlumod yn y coed uwchben y pwll yn llawn efallai y gwelwch ystlum yn gwibio’n isel dros ei wyneb yn y cyfnos wrth chwilota pryfed bach, fel gwybed, pryfed gwellt, a chlêr Mai. Yn y gaeaf, mae brogaod yn gaeafgysgu ym mwd y pwll neu o dan bentyrrau o logiau, gyda madfallod dŵr yn gaeafgysgu o dan y ddaear, ymhlith gwreiddiau coed ac mewn hen waliau.
Mae dau fath o gynffon y gath yma – Typha Minima a Typha Laxmannii. Mae eu seiliau perthog yn cynnig lloches rhag ysglyfaethwyr i bob math o anifeiliaid bach, gan gynnwys brogaod, madfallod dŵr, llygod daear, llyffantod, a llygod y dŵr. Mae Cynffon y Gath yn gweithredu fel hidlydd, gan amsugno metelau gwenwynig a micro-organebau gwenwynig, gan helpu i leihau llygredd dŵr. O amgylch ymyl y dŵr byddwch hefyd yn gweld gold y gors, gelaetsh, a hosta.
Murlun
Wedi’i gomisiynu yn 2023, mae’r murlun yn darlunio blodau wedi’u steilio mewn patrwm caleidosgopig gan ailadrodd dotiau drwyddo draw, fel cyfeiriad at braille a hanes yr ardd.








