Bae Whitmore

Trysor mwyaf Ynys y Barri yw tywod euraid ei thraethau gwych.

Ar un adeg bu Ynys y Barri yn hafan ar gyfer smyglwyr a môr-ladron.

Heddiw, cawsant eu disodli gan sieffs bwytau, siopwyr glan môr, gwerthwyr hufen iâ bendigedig a degau o filoedd o ymwelwyr.

Mae cytiau traeth llachar a wal ddringo lliwgar yn ychwanegiadau poblogaidd i’r Promenâd Dwyreiniol. Bydd y rhai sy’n dilyn yn ôl troed Gavin a Stacey yn ymweld â’r Promenâd Gorllewinol am bysgod a sglodion.

With accessible (and dog friendly beaches out of season), lifeguards and resort managers, the cleaned and rolled sands of Whitmore Bay are freshly available every day of the year.

Once a haven for smugglers and pirates, these days, Barry Island’s greatest treasure is the gleaming, golden sand of its fine beaches!

Whitmore Bay, Barry Island

Family fun

Yn ogystal â’r wal ddringo a’r golff gwallgof, mae digon o weithgareddau i gadw plant yn brysur ar y traeth. Gallwch chwilota’n y pyllau glan môr naill ben y traeth, neu casglu broc môr ar hyd y lan fel cregyn, brigau, gwydr môr ag ati. Am fwy o syniadau lawrlwythwch y daflen weithgaredd hon – Bae Whitmore – Hwyl i’r teulu

Teithiau cerdded

Mae’n hawdd cyrraedd yma – mae gorsaf drenau ar Ynys y Barri ei hun. Mae llwybrau cerdded arfordirol prydferth i’r ddau gyfeiriad; mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y llwybr drwy’r Ynys ac yn mynd heibio i Ganolfan Genedlaethol y Glannau gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren i arfordir Gwlad yr Haf. Mae taith gerdded sain dywysedig y gallwch ei dilyn i Gapel Sant Baruc a fydd yn mynd â chi o gwmpas Pentir Nel. Neu ewch i’r cyfeiriad arall o amgylch Pentir y Brodyr am olygfeydd ar draws yr Hen Harbwr a Bae Twr Gwylio.

Am daith gerdded estynedig, dilynwch Llwybr y Fro 4 sy’n daith gerdded 3.5 awr i Fae Limpert (Gileston). Mae Canolfan Ymwelwyr yr RNLI, ac Amgueddfa Rhyfel y Barri yn werth ymweliad (gwiriwch yr amseroedd agor)

Darllenwch fwy am hanes datblygiad Ynys y Barri yma.

yma.

Whitmore Bay, Barry Island

Gwybodaeth

Trwy gydol yr haf cynhaliwyd digwyddiadau cyffrous ar yr Ynys e.e. y ras 10K, a Gwyl Fach y Fro. Cadwch lygad ar y dudalen Digwyddiadau am fwy o wybodaeth.

Safle o ddiddordeb gwyddonol (SODDGA)

Mae creigiau Ynys y Barri yn arbennig am eu bod yn dweud wrthym am yr amgylchedd yn y gorffennol pell. Mae creigiau a ffurfiwyd fel llyn, playa (basn anialwch gwastad heb ei ddraenio) a gwaddodion traeth o rhwng 205 a 290 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn eistedd ar ben calchfaen hŷn o 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r creigiau a’r strwythurau hyn yn galluogi daearegwyr i ddeall ble roedd yr arfordir yn ystod y cyfnod Triasig, rhwng 205 a 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r ddau lun isod ar y chwith o ffurfiant creigiau wrth Bentir Nel, ac yn dangos enghraifft o ffawtlin hollti.

Mae’r llun o strata’r graig ar y dde yn dangos brigiad grŵp cerrig llaid Mercia wrth Bentir y Brodyr. Mae’r lliw coch yn rhan isaf y clogwyn yn dynodi dyddodiad mewn amgylchedd llyn halwynog neu ddarfodedig anial neu led-anial. Mae’r cnapiau gypswm gwyn nodedig yn rhan isaf y clogwyn yn awgrymu cyfnodau o anweddiad hirach, gan arwain at ddyddodiad halwynau gypswm anweddol. Mae’r creigiau llwyd hufennog i wyrddlwyd yn y clogwyn uchaf yn dynodi newid i amgylcheddau morol cyfyngedig ac agored, a gynhyrchwyd yn sgil y codiad byd-eang yn lefel y môr yn ystod y cyfnod Triasig Hwyr i’r cyfnod Jwrasig Cynnar, a arweiniodd at dresmasiad morol eang (pan fydd lefel y môr yn codi o gymharu â’r tir a’r draethlin yn symud tuag at dir uwch, sy’n arwain at lifogydd).

 

Fideo

Promenâd y Dwyrain

Ailwampiwyd Promenâd y Dwyrain yn 2014, gan ychwanegu cytiau traeth, wal ddringo, nodwedd niwl cerfluniol yn ogystal â lloriau newydd. Ychwanegwyd cynllun goleuo lliwgar at y Lloches Ddwyreiniol a chrëwyd gofod digwyddiadau uwch ei ben gyda chanopi. Tra bod y Lloches Orllewinol yn llawn siopau sy’n gwerthu hufen iâ a physgod a sglodion, mae’r Lloches Ddwyreiniol yn ofod hyblyg ar gyfer digwyddiadau, mawr a bach. Beth fyddwch chi’n ei wneud yno?