Llwybr treftadaeth o Doc y Barri i Ganol y Dref

Llwybr sain digidol yw ‘Hel Clecs’ fydd yn mynd â chi yn ôl mewn amser. Cerddwch ar hyd Stryd Thompson a Heol Holltwn gyda synau’r hen amser yn eich clustiau! Llwybr treftadaeth gyda thro yn y gynffon, clecs yn gymysg â ffaith! Mae cyfanswm o 15 stori a dylech neilltuo awr dda i gwblhau'r llwybr. I fanteisio ar y sain 360˚ ymdrochol defnyddiwch glustffonau gyda'ch ffôn symudol.

Mae’r llwybr sain yn cynnwys rai o gymeriadau bythgofiadwy y 1890au hyd at 2020. Torrwch eich gwallt gyda Harry a dysgwch am gyfarfod rhamantus Kel a Rhys, eisteddwch wrth ymyl heddwas ar fainc yn Sgwâr y Brenin a chlywed am ei noson wyllt ar yr Ynys. Hyd yn oed yn oes Fictoria roedd colofn ‘Mrs Grundy’s Jottings’ ym mhapur newydd Dociau’r Barri yn rhoi’r clecs diweddaraf i’r gymuned. Er nad oedd hi’n enwi enwau, ac mai awgrym oedd yna’n aml, doedd dim dwywaith am bwy roedd y clecs.

Cychwynwch y daith hon wrth adael gorsaf drenau Dociau’r Barri a throi i’r chwith ar hyd Dock View Road. Dyma’r rhan gyntaf o’r dref y daeth morwyr ar ei thraws, ac roedd yn ei hanterth cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ochr arall y ffordd fe welwch ganolfan brics coch i bobl oedd wedi ymddeol a adeiladwyd yn yr 1980au. Fe’u hadeiladwyd ar ôl i Westy Culley gael ei ddymchwel, a oedd yn cynnwys y Chain Locker enwog, a oedd yn cael ei adnabod fel bar hiraf y byd! Gwrandewch ar Harry, Morwr heb ei ail, yn pregethu wrth forwr meddw ar ochr y ffordd (chi?!) 1901 yw’r flwyddyn.

(Termau y gallech fod yn anghyfarwydd â nhw: ‘shebeen’ – tafarn anghyfreithlon wedi ei sefydlu yn nhŷ rhywun; ‘crimping’ neu ‘shanghaiing’ – pan oedd dyn neu forwr yn cael ei herwgipio i weithio ar long.)


 

Culleys Hotel and Chain Locker

Cyn cyrraedd y gyffordd â Stryd Thompson, edrychwch i’r chwith dros y Dociau. Edrychwch yn ôl ar Swyddfa’r Doc a dychmygu bomwyr Almaenig oddi fry yn bomio’r dociau ym 1941. Yng nghanol y seirenau sy’n canu uwchben, clywch ddau fachgen bach yn chwarae, yn esgus eu bod yn awyrennau ymladd. Dyma gyfnod y dogni, felly maent am wybod lle gallant gael hyd o losin!

Trowch i’r dde i Stryd Thompson, gan gadw ar ochr dde’r ffordd nes cyrraedd llwybr troed rhwng dau floc o dai brics coch. Y llwybr troed hwn yw lle’r oedd Stryd Travis yn arfer bod. Dymchwelwyd rhan waelod Stryd Thompson yn 1972, a dyna hefyd lle sefydlwyd Clwb Domino “yr holl genhedloedd” yn 1947. Ewch ar daith tacsi i glywed mwy am hanes Stryd Thompson. Cerddwch yn eich blaen i fyny Stryd Thompson.

Trowch i’r chwith wrth gyffordd Stryd Thompson a Heol Holltwn a chadw i’r chwith. Mae’n 1977, blwyddyn y Jiwbilî, ac mae’r Frenhines a’r Tywysog Philip yn ymweld â’r Barri ar eu taith o amgylch Prydain. Mae pawb yn llawn cyffro, ond neb yn fwy nag Alison a Dave sy’n taro sgwrs gyda chi wrth ddisgwyl yn y dorf.


Cerddwch yn eich blaen nes cyrraedd Stryd Lombard, stryd ochr ar y dde. Roedd rhif 33, yr adeilad ar y gornel, gydag arwyneb carreg Portland smart yn fanc, ac mae cysylltiad rhwng enw’r stryd â bancio a Dinas Llundain. Ar y gornel gyferbyn ag e roedd Joseph Janner Furnisher, y daeth ei fab yn AS Llafur ac yn Arglwydd am Oes – Syr Barnett Janner. Roedd digon o bobl gyfoethog yn Y Barri pan oedd allforio glo yn ei anterth yn 1913. Yn y recordiad nesaf fe glywch chi ddwy ferch addysgedig a chyffyrddus eu byd yn chwarae hopscotch ac yn sôn am yr adeg pan wnaeth un ohonyn nhw, Eirene, gwrdd â Mrs Pankhurst. Eirene White yw honno, a fyddai’n nes ymlaen yn adnabyddus fel y Farwnes White!


Junction of Lombard Street on Holton Road

Cerddwch ychydig ymhellach i lawr Heol Holltwn a chroesi’r ffordd pan welwch siop Sglodion ar y dde. Erbyn y 1970au roedd y dociau’n brysurach yn mewnforio nwyddau yn hytrach nag allforio, ac un o’r prif fewnforion oedd bananas. Gwrandewch ar y stori hon i glywed pa ymwelydd gafodd daith am ddim ar un o gychod Geest!


Rydych wedi cyrraedd y bloc olaf o siopau a adeiladwyd yn wreiddiol ar Heol Holltwn ddiwedd y 19eg ganrif, adeiladau mwy modern sydd ymhellach i lawr. Trowch a cherddwch yn ôl i fyny Heol Holltwn. Ar ôl y gyffordd â Stryd Lombard croeswch y ffordd i’r siop trin gwallt. Dychmygwch eich bod tu fewn y siop yn cael eich gwallt wedi’i dorri gan Harry, y triniwr gwallt siaradus. Mae’n caru clecs a thynnu coes ei gydweithiwr Kel. 2020 yw’r flwyddyn, ychydig cyn y pandemig – a fydd hi’n teimlo fel oes wahanol?


Ewch yn eich blaen i fyny Heol Holltwn, heibio’r gyffordd â Stryd Thompson ac mae caffi i’r chwith i chi. Gallwch naill ai wrando ar y recordiad wrth i chi barhau i gerdded neu beth am aros am goffi a gwrando yn y caffi? Dychmygwch eich bod yn eich arddegau, yn eistedd mewn caffi gyda’ch ffrind a’ch bwyd newydd gyrraedd eich bwrdd. Mae’n ymddangos bod eich ffrind ar frys ond mae ganddi lawer o glecs i ddweud wrthych chi felly byddai’n well i chi wrando’n ofalus neu fe’u collwch!


Ar un adeg roedd y caffi yn rhif 51 yn Stiwdio Ffotograffig Doc y Barri a oedd hefyd yn cynnig gwasanaeth fframio lluniau. Drws nesaf, yn rhif 53, roedd masnachwyr gwin Griffin & Davies. Parhewch i gerdded i fyny Heol Holltwn heibio Stryd Evans ac yna croeswch y ffordd i Gigyddion Marshall. 1905 yw’r flwyddyn. Rydych wedi sylwi ar boster yn y ffenestr am gystadleuaeth, i ddyfalu pwysau mochyn. Daw’r cigydd allan o’i siop i sôn wrthoch chi am y gystadleuaeth.

Mae’n wir bod cigydd o’r Barri wedi cynnal y gystadleuaeth hon, ond fe’u lleolwyd ar Heol Holltwn Uchaf ar y gornel gyda Stryd Isaf Guthrie, rhifau 254 – 258, a’r enillydd a ddyfalodd agosaf at bwysau’r mochyn oedd enillydd yr ham. Stori wir, wedi’i ffugio ychydig bach!

Holton Rd Butcher

Cerddwch yn eich blaen i fyny Heol Holltwn nes i chi gyrraedd Heron Foods/B&M (102-106 Heol Holltwn). Arferai siop Woolworths fod fan hyn, a agorodd ym 1921, ond symudodd ym 1969 i ddatblygiad newydd ychydig heibio i Sgwâr y Brenin. 1923 yw’r flwyddyn. Rydych chi’n ciwio y tu ôl i Dorothy pan fo’n gweld Gladys ac yn galw arni i ddod draw ati. Maen nhw’n hen ffrindiau, ers eu plentyndod yn y Barri. Maen nhw’n hel clecs am ferch sydd â swydd newydd yn Woolworths, nad yw’n barchus yn ôl Gladys!


Woolworths store on Holton Rd, Barry

Croeswch y ffordd i Spawn Point ac edrychwch i fyny ar ble ddylai arwydd y siop fod. Allwch chi weld ôl yr enw ‘dan evans’? Daeth pob un o’r 6 bae ar y bloc hwn yn siop adrannol Dan Evans yn y pen draw ond y safle cyntaf a brynwyd yn 1905 oedd rhif 81 (lle mae Ramsden’s bellach), yn ymestyn i rif 83 ym 1908, rhif 85 ym 1912 a’r eiddo cornel ym 1917 yn gwerthu llestri. Roedd siopau Dan Evans eraill ar Heol Holltwn hefyd ond roedden nhw’n gwerthu setiau teledu yma.

Dychmygwch eich bod yn blentyn a’ch bod gyda’ch ffrindiau yn edrych i mewn i ffenestr siop sydd â’r teclyn diweddaraf ar ddangos – TELEDU! Am y gorau’n ceisio gweld, rydych chi’n cystadlu o ran pwy sydd â’r teledu mwyaf a phwy sydd â’r stori orau! 1953 yw’r flwyddyn, blwyddyn y coroni.


Cerddwch yn eich blaen i fyny Heol Holltwn nes cyrraedd y gornel gyda Heol Tŷ Newydd. Roedd yr adeilad cornel hwn (rhifau 99-101) yn siop Dan Evans arall o tua 1945, yn arbenigo mewn paent a phapur wal, ac wedyn ddillad dynion o ddiwedd y 60au. Yn 1962 prynodd Dan Evans y siop yn union gyferbyn, lle mae Card Factory nawr. Roedd y siop hon yn gwerthu dillad menywod ac roedd ynddi ystafell de lawn gwlân tapestri Cymreig. Gwrandewch ar Joyce a Marianne, dwy gynorthwyydd siop ifanc, wrth iddynt newid arddangosfa’r ffenestr.


Dan Evans Store at nos. 99-101 Holton Road

Cerddwch draw i Sgwâr y Brenin a chwiliwch am fainc i eistedd arni naill ai ar y Sgwâr neu yn y Parc Canolog. Dychmygwch blismon yn dod eistedd wrth eich ymyl. Mae newydd orffen ei shifft nos ac mae ganddo stori i’w hadrodd!



Ymlaen i 2020 ac roedd Sgwâr y Brenin yn lleoliad protest Mae Bywydau Du o Bwys. Treuliwch amser gyda’ch ffrindiau sglefrfyrddio!


Ar gyfer y stori olaf, cerddwch i’r datblygiad ‘newydd’ ar Heol Holltwn a adeiladwyd ar ddiwedd y 60au. Dyma lle safai Bar Dirwest Mrs Wilson (yn fras lle mae Poundland yn awr). Cododd y Mudiad Dirwest o bryderon bod lefelau meddwdod ac alcoholiaeth mewn cymdeithas yn arwain at dlodi, trais a chwalu teuluoedd. Roeddent o blaid ymatal rhag yfed alcohol a rheoleiddio tafarndai’n llymach. Roedd y mudiad yn weithgar iawn yn y Barri a chollodd llawer o westai eu trwyddedau. Dychmygwch eich bod yn gweld Mrs Wilson yn sefyll y tu allan i’w Bar Dirwest yn 1899, ymunwch â Mrs Cheverley a Mrs Jones wrth iddyn ddal pen rheswm a rhoi’r byd yn ei le!


Y drws nesaf i’r Bar Dirwest, yn rhif 139, roedd y Barry Dock Steam Bakery.

I ddychwelyd mewn dolen i Orsaf Dociau’r Barri, cerddwch yn eich blaen i fyny Heol Holltwn heibio i hen Westy’r Windsor, a agorwyd yn 1896, sydd bellach yn dai cymdeithasol. Gyferbyn fe welwch Eglwys y Santes Fair na chafodd ei chwblhau erioed ac sy’n dal â thŵr a rhannau eraill ar goll. Gelwid y rhan hon o Heol Holltwn o’r eglwys hyd at ‘The Towers’ yn ‘rhes y doctoriaid’ oherwydd y nifer o feddygfeydd oedd yma. ‘The Towers’ oedd cartref Dr Livingstone a symudodd yma gyda’i deulu yn 1898.

Holton Rd with 'The Towers' on the right

Holton Rd with 'The Towers' on the right

Gyferbyn, ar y gornel gyda Stryd Castleland roedd Ysbyty Amy Evans, a sefydlodd yn yr hen westy fel “ysbyty gwirfoddol ar gyfer yr anghenus a’r sawl oedd yn sâl neu’n marw”.

I gyrraedd Gorsaf Dociau’r Barri, cerddwch i lawr at ddiwedd Stryd Castleland a throi i’r dde. Ar ddiwedd Stryd Castleland fel welwch adeilad bric coch hardd – dyma oedd Sefydliad y Morwyr.

Os hoffech wybod pwy yw’r cast a’r criw y tu ôl i’r llwybr treftadaeth sain hwn, lawrlwythwch y rhestr yma: Cast & Crew

Diolch am gwblhau’r daith gerdded! Os oedd hwnna’n plesio, dewch o hyd i fwy o deithiau cerdded a awgrymir yma

Seamen's Institute, Barry