Parc Gwledig Porthceri

Cyfrinach gorau’r Barri!

Mae Parc Gwledig Porthceri yn cynnwys 220 erw o goedwigoedd a ddoldir, traeth cerrig, a thraphont dramatig Fictoraidd. Mae Cliffwood yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol oherwydd planhigion prin fel y maenhad gwyrddlas a’r sarth sy’n tyfu gerllaw planhigion eraill mewn perygl, ac sy’n mwynhau hinsawdd fwyn clogwyni deheuol y Barri.

 

 

 

Did you know that Porthkerry takes its name from Ceri ap Caid, king of Essyllwg? He was the nephew of the great tribal chief Caractacus, who held off the Roman invasion for a decade. But his capture and defeat was a turning point in the Roman invasion with many of the ancient Briton tribes admitting defeat. Rome recognised Ceri’s nobility (and perceived obedience)  and appointed him as governor of one of the South Wales tribes. He assembled a significant maritime trading fleet, expanding the port and naming it Port Ceri.

Another ancient story is of The Fox People of Porthkerry Woods. Listen below!

Mae ap (Saesneg) ar gael i’w lawrlwytho a bydd yn gwneud archwilio’r parc hyd yn oed yn fwy pleserus:

  • Gan ddefnyddio realiti estynedig (RE), gallwch gwrdd â Henry Ringham, y defnyddiwyd ei gwmni i drwsio’r draphont ar ôl iddi ddechrau dadfeilio.
  • Dysgwch am y diodydd hudol a grëwyd gan Ann Jenkin, gwrach Bwthyn Cliffwood, a’r ffordd y gallai fod wedi swyno pobl.
  • Sylwch ar Felin Lifio Cwmcidi yn ymddangos ar ben ei sylfeini a gweld sut y’i gweithredwyd gan ddefnyddio’r pwll dwy ffrwd uwch ei ben.
  • a chasglu llwybrau a ysgogwyd gan GPS…

Android

Apple

Mae parc Porthceri yn ased lleol gwych y mae preswylwyr yn ei fwynhau trwy gydol y flwyddyn. Mae ganddo ddigon o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio, a lleoedd agored er mwyn chwarae ac ymarfer corff. Dyma grŵp Tai Chi yn manteisio ar y lle sydd ganddo i’w gynnig.